Hwb enfawr i sgiliau darllen ysgolion cynradd yng Nghymru
Mae menter newydd sydd â'r nod o wella sgiliau darllen plant ysgolion cynradd Cymru wedi derbyn grant o £99,637 gan Lywodraeth Cymru.
Mae prosiect Cymraeg PALS-UK cyfuno prifysgolion Metropolitan Caerdydd a Nottingham Trent i addasu 'Strategaethau Dysgu â Chymorth Cyfoedion' (PALS) i gyd-fynd â Chwricwlwm Cymru a gofynion yr iaith Gymraeg.
Cyflwynir PALS 3 gwaith yr wythnos am gyfnod o 20 wythnos, am 32 munud y sesiwn i hybu dealltwriaeth ddarllen a rhuglder darllen llafar. Bydd pob disgybl Cyfnod Allweddol Dau yn cael ei baru â chyfoed, gan gymryd eu tro fel tiwtor a disgybl wrth weithio drwy weithgareddau darllen strwythuredig.
Gan ddeillio o'r Unol Daleithiau, mae PALS wedi'i weithredu yn Lloegr, Gwlad yr Iâ a Taiwan. Canfu treial yn 2024 a gynhaliwyd gan Brifysgol Nottingham Trent fod disgyblion a dderbyniodd addysg PALS wedi gwneud, ar gyfartaledd, ddau fis o gynnydd ychwanegol mewn darllen o'i gymharu â'u cyfoedion. Adroddodd athrawon adborth cadarnhaol, gan nodi cynnydd amlwg mewn darllen er pleser, wedi'i gefnogi gan drafodaethau anffurfiol am lyfrau rhwng parau o ddisgyblion.
Bydd y prosiect newydd yn addasu PALS ar gyfer Cymru drwy gyfieithu'r holl gynnwys ac adnoddau hyfforddi i'r Gymraeg. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod yr ymyrraeth, nid yn unig yn gadarn yn addysgeg, ond hefyd yn berthnasol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol i anghenion system addysg Cymru.
Bydd pob llawlyfr PALS yn cynnwys adnoddau cynhwysfawr ar gyfer athrawon, gan gynnwys cynlluniau gwersi wedi'u sgriptio a deunyddiau i fyfyrwyr, gan wneud yr ymyrraeth yn hawdd i'w gweithredu ochr yn ochr â rhaglenni llythrennedd presennol.
Yn datblygu ac yn peilota hyfforddiant PALS-UK ar gyfer cyd-destun Cymreig, dywedodd Dr Emma McDonald, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg ac Addysg yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd: "Rwy'n hynod falch o fod yn arwain datblygiad PALS-UK mewn partneriaeth ag ysgolion ledled Cymru a chael cefnogaeth Llywodraeth Cymru." Mae'r dull cydweithredol hwn yn ein galluogi i addasu'r rhaglen yn benodol ar gyfer y dirwedd addysgol yng Nghymru a sicrhau ei bod yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Saesneg a Chymraeg yn effeithiol. Mae gweithio'n uniongyrchol gydag addysgwyr Cymru yn caniatáu inni ddatblygu'r ymyrraeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n wirioneddol ymatebol i gyd-destun ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Roedd Dr Emma Vardy yn allweddol wrth sicrhau'r cyllid ac mae hi'n arwain tîm PALS-UK ym Mhrifysgol Nottingham Trent: “Mae PALS-UK yn rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth a all drawsnewid canlyniadau darllen plant, felly mae’n gyffrous gweithio gyda Phrifysgol Met Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gyfieithu PALS-UK i’r Gymraeg ac i sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â Chwricwlwm Cymru”.
Mae grant PALS-UK Cymraeg yn rhan o fuddsoddiad gwerth £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru i hybu safonau a chefnogi addysg. Wrth wneud sylwadau ar y gefnogaeth a oedd ar gael, dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: “Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cefnogaeth o ansawdd uchel, sy’n gyson yn genedlaethol i’n holl ysgolion. Rydym yn helpu ysgolion i gynyddu buddsoddiad mewn safonau llythrennedd a rhifedd, herio ac ymgysylltu â'u dysgwyr ar draws y cwricwlwm.”
Mae rhagor o wybodaeth am PALS ar gael drwy Grŵp Ymchwil Fuchs.