Skip to content

PDR Met Caerdydd yn dathlu dwy fuddugoliaeth yng Ngwobrau Dylunio iF 2025

14 Mai 2025

Mae PDR, sefydliad ymchwil dylunio ac arloesi Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn dathlu cyflawniad nodedig, ar ôl ennill dau wobr fawreddog yng Ngwobrau Dylunio iF 2025 - un o'r anrhydeddau mwyaf cydnabyddedig rhyngwladol yn y byd dylunio.

Enillwyr eleni yw Tidal - Gwasanaeth Dylunio Prosthetig Personol yn y categori dylunio gwasanaeth, a Me. - Dyfais Monitro Bersonol yn y categori cysyniad cynnyrch.

Tidal - Personal Prosthetic Design Service in the service design category

Mae Tidal yn cynrychioli prosiect cydweithredol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n canolbwyntio ar drawsnewid sut mae technoleg gynorthwyol yn cael ei chyflwyno. Mae'r gwasanaeth yn rhoi defnyddwyr wrth wraidd y broses ddylunio, gan gefnogi cyd-greu dyfeisiau ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella boddhad defnyddwyr. Drwy gynnwys y defnyddiwr terfynol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth gyd-greu dyfeisiau, mae Tidal yn gwella boddhad ac yn lleihau'r defnydd o brostheteg cyn pryd - mater sy'n effeithio ar filoedd o gleifion yn fyd-eang.

Mae Me. yn system fonitro bersonol, arloesol, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi menywod sy'n profi symptomau'r menopos. Drwy fonitro hormonau mewn amser go-iawn, mae'r ddyfais yn galluogi defnyddwyr i ddeall a rheoli eu hiechyd yn well. Mae'r dull sydd wedi’i targedu hwn, nid yn unig yn gwella hunanofal, ond mae hefyd yn llywio penderfyniadau triniaeth mwy cywir, gan fynd i'r afael â bwlch critigol mewn gofal iechyd menywod.

A mobile phone, a clear bottle, and a personal item displayed together, representing daily life essentials.

Rhannodd Jarred Evans, Cyfarwyddwr yn PDR, ei gyffro wrth ychwanegu dwy Wobr Dylunio iF arall at restr drawiadol o wobrau'r sefydliad: “Rwyf wrth fy modd bod PDR wedi ennill dwy Wobr iF arall! Mae bob amser yn anrhydedd, ond mae eleni'n teimlo'n arbennig iawn - mae un o'r gwobrau'n taflu goleuni ar arloesedd sydd ei angen yn fawr mewn meysydd anwybyddedig o iechyd menywod. Hefyd, fe wnaethom o'r diwedd ennill ein Gwobr Dylunio iF gyntaf yn y categori dylunio gwasanaethau gyda Tidal, a ddeilliodd o'n hymchwil a rhywfaint o waith tîm cadarn gyda'n partneriaid yn y GIG. Heb frolio, ond dros 90 o wobrau dylunio mawr nawr i dîm bach ond hynod dalentog a phroffesiynol - rydyn ni'n gwneud rhywbeth yn iawn!"

Mae Gwobrau Dylunio iF yn parhau i fod yn un o'r cydnabyddiaethau mwyaf poblogaidd yn y maes, gyda miloedd o geisiadau o bob cwr o'r byd yn cael eu beirniadu gan banel rhyngwladol o arbenigwyr annibynnol. Mae'r gwobrau'n atgyfnerthu statws PDR fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil dylunio cymhwysol, ar ôl profi ei hun fel y gorau yn y wlad ac wedi'i enwi'n gyson ymhlith y 25 stiwdio dylunio gorau yn fyd-eang ers ei sefydlu ym 1994.