Skip to content

Canolfan ymchwil newydd i helpu technolegau newydd i wneud gwahaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth a theatrau darlithio

5 Chwefror 2026

Mae Met Caerdydd wedi lansio'r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol mewn Technolegau Rhyngweithiol ar gyfer Addysgu a Dysgu (CIRITTL) - canolfan ar gyfer ymchwil, cydweithio ac arloesi yn y ffordd y gall technoleg wella addysgu a dysgu.

Three members of staff for the Centre for International Research in Interactive Technologies for Teaching and Learning stand either side of an information display

Mae'r CIRITTL yn adeiladu ar brosiectau cydweithredol Met Caerdydd, gan gynnwys Erasmus+ a Chydweithrediad Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD).

Mae CIRITTL hefyd yn adeiladu ar bartneriaethau rhyngwladol presennol ac Astudiaeth Achos Effaith Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 'Gwella defnydd addysgwyr o dechnoleg mewn addysgu ieithoedd ar draws Ewrop ac Ewrasia' i ddatblygu dealltwriaeth o'r hyn sy'n gweithio gyda thechnoleg mewn addysgu a dysgu.

Mae Nick Young yn Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bydd yn arwain ar CIRITTL. Dywedodd Nick: “Nod hirdymor CIRITTL yw adeiladu sylfaen dystiolaeth gref ac ymarferol sy’n cefnogi addysgwyr, sefydliadau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwybodus am dechnoleg mewn dysgu. Drwy gydweithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol, bydd y ganolfan yn helpu i sicrhau bod arloesedd yn arwain at welliannau ystyrlon, cynhwysol a chynaliadwy mewn addysg.”

Yn y digwyddiad lansio diweddar ar gyfer CIRITTL, cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau blasu ymchwil yn tynnu sylw at amrywiaeth a chreadigrwydd prosiectau cyfredol, gan gynnwys y canlynol:

  • Dr Julian Ayres (Prifysgol Wrecsam) - 'O'r Llechen i'r Sgrin: Adnoddau treftadaeth rhyngweithiol yn adeiladu Dysgu Cynradd drwy 360 ac offer sgrin werdd’
  • Yr Athro Jeff Lewis (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) - SpaceFlow: Cymorth Iechyd Meddwl Trochol
  • Yr Athro Sarah Curran (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) - Olrhain y Syllfa Glinigol: Sut mae Efelychu Clwyfau Traed yn Llunio Dysgu ac Addysgu
  • Dr Sammy Chapman (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) - Ein Hysgol Drwy Ein Llygaid Ni: Defnyddio Lluniau Rhyngweithiol 360° mewn Lleoliad Ysgol Arbennig.

Mae'r prosiectau hyn yn dangos ymrwymiad CIRITTL i archwilio technolegau rhyngweithiol ar draws cyd-destunau, o realiti rhithwir trochol ar gyfer lles i olrhain llygaid mewn addysg glinigol a phrofiadau 360° dan arweiniad dysgwyr mewn ysgolion.

“Mae’r ganolfan hon yn ymwneud â sicrhau bod technolegau newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ystafelloedd dosbarth, theatrau darlithio a mannau dysgu go iawn. Drwy seilio arloesedd mewn ymchwil a chydweithio, bydd CIRITTL yn helpu addysgwyr i deimlo'n fwy hyderus, galluog a gwybodus yn y ffordd maent yn defnyddio technoleg i gefnogi dysgu,” ychwanegodd Nick.

Mae CIRITTL bellach yn recriwtio cynrychiolwyr o bob un o bum Ysgol Prifysgol Metropolitan Caerdydd lle bydd mewnbwn yn hanfodol wrth lunio cyfeiriad y ganolfan a sicrhau ei bod wedi'i chysylltu ar draws pob maes.

I ddysgu mwy am CIRITTL, gan gynnwys cenhadaeth, amcanion, grŵp arweinyddiaeth a chyfarfodydd y ganolfan, ewch i wefan y Ganolfan Ymchwil Ryngwladol mewn Technolegau Rhyngweithiol ar gyfer Addysgu a Dysgu.