Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd i gynrychioli Tîm Prydain Fawr a Jamaica yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2026
Mae tri o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael eu dewis i gynrychioli eu gwledydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf Milano Cortina 2026 (6–22 Chwefror).
Maent yn dilyn ôl troed llawer o gyn-Saethwyr sydd wedi cystadlu ar lwyfan chwaraeon mwyaf y byd.
Adele Nicoll
Mae Adele Nicoll, sy’n gyn-fyfyriwr, aelod o staff a hyfforddwr Met Caerdydd, wedi cael ei henwi gan Dîm Prydain Fawr fel un o'u hathletwyr i'w gwylio yn y Gemau sydd i ddod.
Dechreuodd Nicoll, sydd eisoes yn bencampwraig taflu pwysau dair gwaith, camp newydd sef bobsled yn 2020. Mi fydd hi bellach yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd fel peilot bobsled yn y digwyddiadau monobob a dwy fenyw, hi fydd y fenyw gyntaf o Brydain i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf mewn monobob.
Daw ei lle ar garfan llithro craidd Tîm Prydain Fawr ar ôl cystadlu fel aelod wrth gefn yn Beijing 2022 a chyflawni canlyniadau cryf ar gylchedau Cwpan y Byd a Chwpan Ewrop.
Leon Greenwood
Mae Leon Greenwood wedi cael ei ddewis ar gyfer criw bobsled pedwar dyn Tîm Prydain Fawr, gan nodi ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd.
Mae Leon Greenwood yn un o raddedigion gradd BSc Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a gynrychiolodd Met Caerdydd fel sbrintiwr ac athletwr pêl-fasged yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Met Caerdydd rhwng 2015-2018.
Ymunodd â rhaglen Bobsled Prydain yn 2022 ac ers hynny mae wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop.
Mica Moore
Mica Moore yw trydydd Olympiad Met Caerdydd. Yn gyn-sbrintiwr merched, bellach wedi cael ei dewis i gynrychioli tîm bobsled Jamaica yn ei hail Gemau Olympaidd y Gaeaf, gan gystadlu yn y monobob merched.
Cynrychiolodd Mica, a astudiodd BSc Addysg a Chwaraeon ac MSc Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd ac sy'n dal i hyfforddi yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, gynrychiolodd Prydain Fawr yn y digwyddiad bobsled dwy fenyw yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2018 yn Ne Corea.
Dyma atgoffyn bod rhagoriaeth chwaraeon yn croesi ffiniau a disgyblaethau.
Yn ddiweddar, recordiodd Mica fideo am ei gobeithion Olympaidd, wedi'i ffilmio a'i olygu gan Devin Pote, un o fyfyrwyr cwrs MSc Darlledu Chwaraeon, Met Caerdydd.