Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Dathlu Prifysgol Chwaraeon Cymru

23 Mehefin 2026

Dathlodd Met Caerdydd ei hymddangosiad fel Prifysgol Chwaraeon Cymru mewn digwyddiad ar gampws Cyncoed a oedd hefyd yn nodi cyhoeddiad tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2026 yng Nglasgow.

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor, wrth y gynulleidfa:

"Mae lansio Met Caerdydd fel Prifysgol Chwaraeon Cymru yn gyfle cyffrous i edrych ymlaen i'r dyfodol tra hefyd yn cydnabod bron i 70 mlynedd o ymrwymiad i ragoriaeth mewn perfformiad chwaraeon a datblygu chwaraeon yng Nghymru. Fel Prifysgol Chwaraeon Cymru, rydym yn gwneud mwy na dim ond cefnogi rhagoriaeth mewn perfformiad ar y lefel uchaf; rydym yn sylfaenol i ddatblygu'r dalent, y syniadau a'r cyfleoedd sy'n siapio dyfodol chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt."

 

Rachael Langford announces Cardiff Met as Wales' Sporting University during a conference

 

Wrth wraidd gweledigaeth Met Caerdydd mae cydweithio, megis y rhaglen arweinyddiaeth arobryn, a ddatblygwyd gyda Thîm Cymru a'i chyflwyno drwy'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd, fydd yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, yn enwedig menywod mewn chwaraeon, gan eu harfogi â'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i gael effaith. Mae mwy na 50 o fyfyrwyr eisoes wedi cyfrannu'n uniongyrchol trwy leoliadau, interniaethau a phrosiectau cydweithredol. Mae'r bartneriaeth yn rhychwantu popeth o ddatblygu arweinyddiaeth i gefnogi perfformiad ac mae wedi cael ei chydnabod yn rhyngwladol.

Mae dull Met Caerdydd yn unigryw: nid yw myfyrwyr yn dysgu am chwaraeon yn unig, maen nhw'n ei lunio’n weithredol.

  • Chwaraeodd myfyrwyr dylunio ran allweddol wrth greu cit swyddogol Tîm Cymru.
  • Mae myfyrwyr technoleg a pherfformiad wedi cefnogi athletwyr trwy waith dadansoddi a pharatoi arloesol.
  • Mae eraill wedi sicrhau interniaethau ar draws Tîm Cymru a mudiad ehangach y Gymanwlad.

Mae gan Met Caerdydd draddodiad hir o gefnogi perfformwyr o'r radd flaenaf ac mae'n falch o’r garfan gref o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, staff a chysylltiadau, hyfforddwyr a thimau cymorth sy'n cynrychioli Tîm Cymru a gwledydd eraill yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 yng Nglasgow.

Trwy fentrau fel rhaglenni ymgysylltu ag ysgolion, hyfforddi allgymorth, a phartneriaethau cymunedol, mae Met Caerdydd hefyd yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, gan greu llwybrau i’r byd chwaraeon i bobl ifanc.

Meddai'r Athro Langford: "Mae'r rôl rydyn ni'n ei chwarae yn ecosystem chwaraeon Cymru yn ganolog i lwyddiant ar y cae, y cwrt, y trac, yn y pwll nofio ac ar y dŵr, ond rydym hefyd yn arwain y gwaith o greu system integredig lle gall rhaglenni cenedlaethol, timau elitaidd, myfyrwyr, a chymunedau gysylltu a ffynnu gyda'i gilydd, system sy'n cysylltu chwaraeon perfformiad ag addysg,  ymchwil, a gweithgareddau ac ymgysylltiad cymunedol. Ein hymrwymiad fel Prifysgol Chwaraeon Cymru yw cydnabod a datblygu'r dull hwn sy'n gysylltiedig â'r system gyfan, yn lleol ac yn fyd-eang er budd Cymru a'r byd ehangach nawr ac ymhell i'r dyfodol. Ar ran pawb ym Met Caerdydd, hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r holl athletwyr, hyfforddwyr a staff ehangach Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow 2026."

Talodd Helen Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru, deyrnged i'r bartneriaeth gref gyda Met Caerdydd: "Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddathlu'r bartneriaeth ragorol sydd gennym, ac ymrwymiad Met Caerdydd i'n syniadau a'n gweledigaeth."

Siaradodd panel yn cynnwys myfyriwr presennol Met Caerdydd, Morgan Griffiths, Suzy Drane, uwch ddarlithydd mewn Datblygu Chwaraeon, cyn-fyfyrwyr Sue Butler (Pennaeth Chwaraeon S4C) a Caroline Spanton (Prif Swyddog Gweithredol Beicio Cymru), ac Aled Lewis. Pennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Edern, dan gadeiryddiaeth un o raddedigion y cyfryngau Gabriella Dukes am ddylanwad cadarnhaol chwaraeon Met Caerdydd ar unigolion a'r gymuned ehangach.