Skip to content

Gwaith Celf myfyriwr graddedig a gaffaelwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi ei helpu i ddatgelu ei rywioldeb i’w rieni

19 Mawrth 2026

Fe wnaeth darn o waith celf bwerus un myfyriwr graddedig sy’n archwilio ystyr y gair 'pansies' - sydd bellach ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru - helpu'r artist uchelgeisiol i ddweud wrth ei rieni ei fod yn hoyw.

Graddiodd Toni De Jesus, o Maderia, Portiwgal, o’r Radd BA (Anrh) Cerameg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2018. Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i sefydlu ei hun fel artist uchel ei barch yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Toni De Jesus with their artwork at the LJ. Lohmann Gallery at Design Miami

Mae gwaith Toni - 'Amor Perfeito' - bellach wedi’i gaffael ar gyfer casgliad cyhoeddus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn dangos pansïau ar lestr porslen.

Dywedodd Toni: “Dechreuais weithio ar Amor-Perfeito ar gyfer prosiect gyda 'On Your Face' - sef cymuned o artistiaid cwiar sy'n cael eu dwyn ynghyd o bob cwr o Gymru i arddangos eu gwaith. Mae gwreiddiau Amor-Perfeito, fel y mae i’w weld heddiw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn deillio o blât porslen yn oriel Gwaith Tsieina Nantgarw dros 200 mlynedd yn ôl. Defnyddiais y porslen gwreiddiol i wneud y llestr â llaw, gan ei gysylltu â'r plât gwreiddiol. Yn olaf, rhoddais addurniadau ar ffurf pansïau ar yr wyneb.”

Cyn i'w waith gael ei arddangos fel rhan o’r casgliad On Your Face, nid oedd Toni wedi dweud wrth ei dad ei fod yn hoyw.

Dywed Toni: “Er bod arwyddocâd negyddol i’r gair yn y DU, ym Mhortiwgal - sef o ble mae fy nheulu a minnau’n dod - mae’r gair ‘pansies’ yn golygu cariad perffaith. Yn yr un modd ag yr ydym wedi ailfeddiannu’r gair “cwiar”, rwy’n ailfeddiannu’r gair ‘pansy’ ac i roi’r ystyr ar hyn sy’n wirioneddol bwysig.

“Pan gafodd y gwaith ei arddangos gyntaf, gan ei fod mor gyhoeddus, daeth yn gyfle i mi ddweud wrth fy nhad am y tro cyntaf fy mod i’n hoyw.”

Oherwydd y stori y tu ôl i'r gwaith celf a'r enw sydd ag ystyr difrïol o ran hunaniaethau cwiar, mae Amor-Perfeito wedi ennyn diddordeb orielau ledled Cymru ac yn rhyngwladol - gan gynnwys cael ei arddangos yn Oriel J. Lohmann yn Efrog Newydd.

Yn ddiweddar, mae Toni wedi bod yn datblygu casgliad o waith gyda'r oriel yn Efrog Newydd ac wedi dangos amrywiol gasgliadau yn Design Miami, Salon Art + Design Fair a Homo Faber: Taith Bywyd yn Fenis. Arweiniodd yr arddangosfeydd hyn hefyd at sylw yn y wasg yn Vogue USA, Ceramic Review a’i enwebu ar gyfer uchafbwyntiau dylunio The Guardian 2024.

Dywed Toni: “Ar ôl sgwrs gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynglŷn â phrynu’r gwaith, fe gynigiais sawl dar, ond roedden nhw wrth eu bodd gydag effaith Amor-Perfeito.

“Rwyf wedi bod ar daith eithaf hir gyda’r darn hwn o waith. Mae wedi datblygu fy nghasgliad cyfan a sut rydw i'n meddwl amdano mewn gwirionedd. Sut gall celf efelychu bywyd. Teimlad o berthyn a pheidio perthyn. Mae hynny wir yn cael ei gyfleu yn y gwaith rwy'n ei gynhyrchu.”

Mae Amor-Perfeito bellach yn eiddo i'r Amgueddfa Genedlaethol a phobl Cymru ac yn cael ei ddal ar ymddiried ar ran y genedl.