Gwasanaethau Microsoft wedi eu tarfu yn fyd-eang
13 Tachwedd 2026
Rydym yn ymwybodol o’r broblem fyd-eang barhaus sy’n effeithio ar Microsoft Outlook a Teams, a allai hefyd effeithio ar wasanaethau eraill sy’n dibynnu ar y llwyfannau hyn. Mae Microsoft wrthi’n gweithio i adfer gwasanaethau, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.
Mae ein timau TG yn monitro’r sefyllfa ac yn asesu unrhyw effaith ar wasanaethau’r Brifysgol. Gall y tarfu hefyd effeithio ar y gallu i dderbyn ac ymateb i e-byst, gan gynnwys ymholiadau a anfonir at y Gwasanaeth Derbyniadau. Gofynnwn i unrhyw un sy’n aros am ymateb gan y Gwasanaeth Derbyniadau fod yn amyneddgar wrth i’r gwasanaethau gael eu hadfer.
Diolch am eich amynedd tra bod gwasanaethau llawn yn cael eu hadfer.