Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Mae prosiect Met Caerdydd yn rhoi llais i bobl â ffeibrosis systig yn eu gofal iechyd

8 Medi 2026

Mae cydweithrediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn helpu pobl sy’n byw gyda ffibrosis systig i rannu eu profiadau a chyfathrebu’n fwy agored gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy bŵer adrodd straeon a darlunio.

I nodi Diwrnod Ffibrosis Systig y Byd ar yr 8fed o Fedi, mae Met Caerdydd yn tynnu sylw at effaith Straeon Ffibrosis Systig: Yn Eich Geiriau Eich Hun, prosiect sy’n defnyddio straeon cleifion go iawn i wella gofal iechyd.

Mae ffibrosis systig yn gyflwr genetig etifeddol sy’n effeithio’n bennaf ar yr ysgyfaint a’r system dreulio. Er bod datblygiadau mewn triniaeth wedi trawsnewid canlyniadau i lawer o bobl â’r cyflwr, mae ei reoli yn parhau i fod yn her gymhleth, gydol oes.

Anna Suschitzky sy’n arwain y fenter, a gafodd gymrodoriaeth drwy Story Arcs, rhaglen a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a arweinir gan Brifysgol Spa Caerfaddon i weithio gyda chydweithwyr Met Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyd-greu casgliad o straeon digidol sy’n canolbwyntio ar brofiadau pobl sy’n byw gyda ffibrosis systig.

Y prif nod oedd cefnogi cyfathrebu rhwng pobl sy’n byw gyda’r ffibrosis systig a’u timau clinigol. Trwy gyfres o weithdai ar-lein, rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr adrodd eu straeon yn eu geiriau ei hunain, gan greu adnoddau sy’n cynnig mewnwelediad gwerthfawr ar realiti byw gyda’r cyflwr.

Fel rhan o’r cydweithrediad, gweithiodd Polly Allburn a Hope Martlew-Cousins, graddedigion darlunio YGDC gyda’r cyfranogwyr i greu darluniau gwreiddiol a oedd yn cyd-fynd â nifer o’r straeon.

Dywedodd Anna Suschitzky, Cymrawd Stori ac arweinydd y prosiect:

“Roedd syniad syml wrth wraidd y prosiect hwn: mai’r bobl sy’n byw gyda ffibrosis systig sy’n adnabod eu cyrff orau. Drwy greu lle diogel iddynt adrodd eu straeon yn eu geiriau ei hunain, roeddem yn gallu datblygu adnoddau a all helpu i gryfhau dealltwriaeth a chyfathrebu rhwng cleifion a’u meddygon.”

Mae’r prosiect hefyd wedi creu cyfleoedd ymchwil newydd; sicrhawyd cyllid drwy Gonsortiwm Lles a ariennir gan AHRC, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, ar gyfer prosiect ymchwil doethurol sy’n archwilio sut y gall darlunio gefnogi datblygu cymhorthion penderfyniadau a rennir ym maes gofal iechyd.

Bydd y prosiect doethuriaeth, sydd am ddechrau ym mis Medi 2026, yn ymchwilio i sut y gall dulliau ymchwil adrodd straeon a seiliedig ar ddarluniau gyfrannu at offer gwneud penderfyniadau a rennir mwy dilys, gan gefnogi sgyrsiau ystyrlon rhwng cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Cafodd Anna ei chefnogi gan Debbie Savage ac Amelia Huw Morgan o Ysgol Dylunio Caerdydd, a Dr Rhiannon Phillips o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, yn ogystal â Dr Jamie Duckers o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dywedodd Debbie Savage, Deon Cyswllt Ymchwil Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd:

“Mae’r prosiect hwn wedi helpu i atseinio lleisiau pobl sy’n byw gyda ffibrosis systig wrth archwilio dulliau newydd o gyfathrebu rhwng cleifion a thimau clinigol.

“Mae cynnwys ymchwilwyr Met Caerdydd a graddedigion darlunio yn dangos gwerth ymarfer creadigol wrth fynd i’r afael â heriau gofal iechyd y byd go iawn. Rydym wrth ein bodd bod y prosiect wedi creu sylfaen ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i sut y gall adrodd straeon a darlunio cefnogi gwneud penderfyniadau ar y cyd a gwella profiadau gofal iechyd i gleifion.”

Dyma rai sylwadau gan y cyfranogwyr yn y prosiect:

“Yr hyn oedd yn fy synnu fwyaf oedd pa mor therapiwtig daeth y profiad. Cafodd fy stori ei roi mewn i eiriau a wnaeth fy helpu i ddeall sut roeddwn i’n teimlo am rai eiliadau a rhoddodd ymdeimlad o ddilysu i mi nad oeddwn yn sylweddoli bod ei angen arnaf.”

“ ... mae’r ffaith bod y rhain yn ddigidol, dwi’n meddwl yn eu gwneud ... yn fwy pwerus na phe bawn i’n cael darn o bapur a oedd â’r holl sgriptiau arno.”

“Mae’n anhygoel sut y gall clip byr pedair munud fod mor bwerus ac yn ysgogi meddwl.”

“Yn eithaf aml y peth allweddol yw cael eich cyhoeddi mewn cyfnodolyn sydd wedyn yn eistedd y tu ôl i wal gyflog na all unrhyw un ei gyrchu. Felly, gobeithio bod hyn yn rhywbeth sydd yn llawer mwy hygyrch”

“Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael cyfle i adrodd fy stori ac rwy’n gobeithio bod ei rannu yn helpu rhywun arall i deimlo ychydig yn llai ar ei ben ei hun.”

I ddysgu mwy a darllen y straeon, ewch i: Straeon Ffeibrosis Systig – Yn eich geiriau eich hun (Story Arcs)