Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Mae Teledu Chwaraeon Met Caerdydd yn ennill gwobr genedlaethol am arloesedd digidol

21 Gorffennaf 2026

Mae Teledu Chwaraeon Met Caerdydd wedi cael ei gydnabod fel arweinydd cenedlaethol ym maes darlledu chwaraeon prifysgol ar ôl ennill y Wobr Ymgysylltu Ddigidol yng Ngwobrau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) 2026.

 

Two people stand on a rugby pitch. They are holding microphones with Met TV printed on them.

 

Cynhelir Gwobrau BUCS blynyddol ym Mhrifysgol Durham, ac maent yn dathlu rhagoriaeth ar draws chwaraeon prifysgol, gan gydnabod cyflawniadau rhagorol gan fwy na 165 o sefydliadau addysg uwch.

Derbyniodd Teledu Chwaraeon Met Caerdydd y wobr am Brosiect BSR, menter uchelgeisiol a drawsnewidiodd y sylw a roddwyd i Super Rugby BUCS yn ystod tymor 2025/26. Roedd y prosiect yn cynnwys darllediadau byw o bob gêm gartref Met Caerdydd yng nghystadlaethau’r dynion a’r menywod, uchafbwyntiau ar yr un diwrnod a chynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag Our Legacy, cyfres ddogfen y tu ôl i’r llenni yn dilyn rygbi menywod Met Caerdydd.

Ehangodd y prosiect dan arweiniad myfyrwyr gyrhaeddiad Chwaraeon Met Caerdydd yn sylweddol, gyda mwy na 100,000 o wylwyr yn gwylio’r darllediadau byw ar draws dau blatfform yn ystod y tymor a chynnwys Instagram Teledu Chwaraeon Met Caerdydd wedi denu mwy na 600,000 o ymweliadau ers mis Ionawr eleni.

Dywedodd Joe Towns, Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y radd MSc Darlledu Chwaraeon ac Arweinydd Arloesi: “Mae ffigurau gwylio ein darllediadau rygbi byw wedi bod yn rhyfeddol, gyda mwy na 100,000 o wylwyr yn gwylio ar draws dau blatfform y tymor diwethaf. Nid oes prifysgol arall yn y DU yn darparu sylwebu ar rygbi ar y raddfa hon ac mae’n ein helpu i gysylltu â darpar fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, teuluoedd chwaraewyr ac asiantau rygbi. Mae’r darllediadau byw hefyd wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn ar draws y campws.”

Nodwedd allweddol o Brosiect BSR oedd Our Legacy, cyfres ddogfen y tu ôl i’r llenni a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr MSc Darlledu Chwaraeon Ellie Place a Devin Pote, yn dilyn tîm rygbi menywod Met Caerdydd wrth iddynt amddiffyn teitl Super Rugby BUCS a enillwyd ganddynt yn 2024/25.

Mae’r gyfres eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol, gan ennill gwobr Arian yn y categori Rhaglen Ddogfen Orau yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr Cenedlaethol eleni.

Dywedodd Ellie Place: “Mae’n wych i dderbyn gwobr arall am y prosiect hwn wrth i ni baratoi i ymuno â’r farchnad swyddi. Ar ôl i dîm rygbi’r menywod ennill teitl Super Rugby BUCS, fe wnaethon ni gysylltu â nhw gyda’r syniad o raglen ddogfen y tu ôl i’r llenni, ac fe wnaethon nhw ei groesawu o’r cychwyn cyntaf, gan roi mynediad anhygoel i ni. Maen nhw wedi bod yn wych i weithio gyda nhw.”

Cefnogir llwyddiant Teledu Chwaraeon Met Caerdydd gan gyfleusterau darlledu o safon y diwydiant sy’n galluogi myfyrwyr i gynhyrchu darllediadau chwaraeon byw proffesiynol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Dywedodd Ado Rapps, Cyfarwyddwr y Labordy ac Arweinydd Technegol Darlledu: “Rydym wedi creu amgylchedd sy’n adlewyrchu safonau darlledu proffesiynol wrth roi profiad i fyfyrwyr ar draws pob agwedd ar gynhyrchu byw, o gyfarwyddo a chyflwyno i weithredu camera, graffeg a sain. Mae ein cyfleusterau darlledu pwrpasol ar ochr y cae yn unigryw mewn addysg uwch yn y DU ac mae’n wych gweld hynny’n cael ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol.”

Gwyliwch Our Legacy: Stori WRFC Met Caerdydd