Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Surfers Against Sewage (SAS) wedi dechrau partneriaeth tair blynedd newydd i helpu i wella ansawdd dŵr ledled Cymru a’r DU drwy ymchwil, gwyddoniaeth dinasyddion a chynnwys myfyrwyr.
Mae’r cytundeb yn dwyn ynghyd arbenigedd ymchwil Met Caerdydd a phrofiad tîm SAS o fonitro ansawdd dŵr, ymgyrchu a gweithredu cymunedol. Gyda’i gilydd, byddant yn gweithio ar brosiectau sy’n gwella dealltwriaeth o effeithiau iechyd y cyhoedd o ddod i gysylltiad â charthffosiaeth a llygredd mewn afonydd, llynnoedd a dyfroedd ymdrochi arfordirol.
Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar rannu a dadansoddi data amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus, datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd, a chefnogi rhaglenni gwyddoniaeth dinasyddion sy’n annog pobl i helpu i fonitro eu dyfrffyrdd lleol. Bydd y ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar rybuddion ansawdd dŵr, dehongli data a datblygu polisi i helpu i godi safonau dŵr ymdrochi.
Gallai’r ymchwil gefnogi dynodi, monitro a gwella dyfroedd ymdrochi ledled Cymru a’r DU. Gall canfyddiadau’r bartneriaeth helpu awdurdodau lleol, rheoleiddwyr a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwybodus am ansawdd dŵr. Bydd y tîm hefyd yn archwilio sut y gall technolegau newydd, gwell casglu data a chyfranogiad y cyhoedd wella dealltwriaeth o ddigwyddiadau llygredd a’r risgiau iechyd cyhoeddus posibl.
Bydd myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig yn y bartneriaeth. Bydd myfyrwyr Met Caerdydd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau, interniaethau a phrosiectau ymchwil, gan eu galluogi i ennill profiad ymarferol mewn monitro amgylcheddol, datblygu polisïau a mynd i’r afael â heriau amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus go iawn.
Dywedodd Dr Stuart Scott, arweinydd y bartneriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:
“Mae’r bartneriaeth hon yn dangos ymrwymiad Met Caerdydd i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd drwy ymchwil, cydweithredu ac arloesi. Drwy weithio gyda Surfers Against Sewage, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd academaidd i fynd i’r afael â materion go iawn sy’n effeithio ar ansawdd dŵr, iechyd y cyhoedd a chynaliadwyedd amgylcheddol ledled Cymru a’r DU.
“Bydd yn rhoi cyfle i’n hymchwilwyr a’n myfyrwyr gyfrannu at brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fonitro amgylcheddol a dadansoddi data i wyddoniaeth dinasyddion ac ymchwil polisi, rydym yn gyffrous i weithio gyda’n gilydd i adeiladu gwybodaeth, cefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn y pen draw gwella ansawdd dŵr ymdrochi ledled Cymru a’r DU.”
Dywedodd Kirsty Davies, Rheolwr Ansawdd Dŵr Cymunedol yn Surfers Against Sewage:
“Mae pawb yn haeddu gallu nofio, syrffio, padlo a mwynhau dyfroedd gwyllt y wlad heb y risg o fynd yn sâl. Mae’r bartneriaeth hon gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn gydweithrediad cyffrous iawn ac yn rhan o’n gwaith parhaus wrth ymgyrchu dros ddyfroedd glanach ac dros bolisïau sy’n diogelu’r bobl sy’n eu defnyddio. Trwy gyfuno ein ethos o ddefnyddio data, gwyddoniaeth dinasyddion ac actifiaeth ar lawr gwlad gydag arbenigedd ymchwil y Brifysgol, gallwn gryfhau’r dystiolaeth sydd ei hangen i orfodi penderfynwyr i weithredu.
“Mae angen i ni weld Rheoliadau Dŵr Ymdrochi sy’n adlewyrchu sut mae pobl yn defnyddio’r dŵr. Trwy’r bartneriaeth hon, rydym am ehangu gwyddoniaeth dinasyddion ac ymchwil arloesol i effeithiau llygredd ar iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd fel bod y dystiolaeth a’r angen i amddiffyn defnyddwyr dŵr yn amhosibl ei anwybyddu. Gyda’n gilydd gallwn helpu i lunio polisi, cefnogi cymunedau lleol a diogelu ein dyfroedd gwyllt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”