Met Caerdydd i gaffael neuaddau preswyl ger Cyncoed gan Brifysgol Caerdydd, gan ddod â myfyrwyr yn agosach i’r campws
Heddiw, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd y byddant yn cyfnewid contractau ar gyfer Neuadd Breswyl y Brifysgol, Heol Birchwood, Cyncoed.
Mae Met Caerdydd wedi cytuno i brynu’r safle, sydd ar hyn o bryd yn gartref i fwy na 650 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Nid fydd y preswylwyr presennol yn cael eu heffeithio, a byddant yn aros yno tan haf 2027.
Mae’r cytundeb rhwng y ddwy brifysgol yn golygu y bydd mwy o fyfyrwyr yn y brifddinas yn byw o fewn pellter cerdded o le maen nhw’n astudio. Mae hyn yn golygu y bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn elwa o gael llety i fyfyrwyr sy’n agos at ei champws prysur yng Nghyncoed, sy’n gartref i Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon gan gynnwys y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol.
Disgwylir i’r pryniant gael ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2027 pan fydd preswylwyr presennol Prifysgol Caerdydd yn cyrraedd diwedd eu tenantiaethau. Mae hyn yn golygu na fydd trefniadau llety’r ddwy brifysgol yn cael eu heffeithio yn ystod y flwyddyn academaidd hon, fydd yn caniatáu i Brifysgol Metropolitan Caerdydd baratoi ar gyfer dyfodiad myfyrwyr ym Medi 2027. Byddwn yn ymgynghori â staff sy’n gweithio i Brifysgol Caerdydd ar y safle ar hyn o bryd i drafod y posibilrwydd o’u trosglwyddo i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yr Athro Rachael Langford:
“Dyma gaffaeliad strategol bwysig i’r Brifysgol a fydd yn ein galluogi i ddatblygu profiad ein myfyrwyr ymhellach, yn enwedig i’r rhai sy’n astudio ar ein campws prysur yng Nghyncoed. Bydd hyn yn golygu y bydd mwy o’n myfyrwyr yn byw taith gerdded fer i le maen nhw’n astudio, hyfforddi a chymdeithasu; mae hefyd yn rhan o’n hymrwymiad i fuddsoddi ymhellach ym mhrofiad ein myfyrwyr ac i sicrhau ein bod yn gallu cadw costau’n isel a’r ansawdd yn uchel i’n myfyrwyr.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i sicrhau cyfnod pontio llyfn, ac rydym yn gyffrous i gael croesawu myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd i Neuadd Breswyl y Brifysgol ym mis Medi 2027.”
Dywedodd Anita Edson, Cyfarwyddwr Ystadau Prifysgol Caerdydd: “Mae hwn yn sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill. Mae’n sicrhau y bydd gan y ddau grŵp o fyfyrwyr fynediad at fwy o opsiynau llety sy’n agosach at eu prifysgol, ac yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ein campws yng nghanol y ddinas a’n huchelgeisiau ehangach o ran yr ystâd.
“Gallwn sicrhau preswylwyr presennol nad fydd hyn yn eu heffeithio’n uniongyrchol, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio i sicrhau trosglwyddiad llyfn ac na fydd hyn yn effeithio’n ormodol ar ein staff.”