Met Caerdydd yn sicrhau £400,000 i ehangu asesiad llythrennedd cyfrwng Cymraeg arloesol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi sicrhau mwy na £400,000 o gyllid i ehangu GoFaL, offeryn asesu llythrennedd cyfrwng Cymraeg arloesol sy’n helpu ysgolion i adnabod a chefnogi datblygiad llythrennedd dysgwyr.
Bydd y cyllid yn galluogi ymchwilwyr o Met Caerdydd i ehangu cyrhaeddiad GoFaL yn sylweddol, gan ymestyn yr asesiad o’i ffocws presennol ar Flynyddoedd 7 i 11 i gynnwys disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 a myfyrwyr ym Mlynyddoedd 12 a 13.

Dan arweiniad Dr Rhiannon Packer o Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Met Caerdydd, bydd y prosiect hefyd yn gweld datblygu asesiad dealltwriaeth darllen newydd ar gyfer dysgwyr rhwng Blynyddoedd 3 a 13, gan greu un o’r fframweithiau asesu llythrennedd cyfrwng Cymraeg mwyaf trylwyr sydd ar gael.
Ar gael i ysgolion ar hyn o bryd drwy Hwb, platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru, mae GoFaL yn darparu ffordd safonol i ymarferwyr o asesu sgiliau llythrennedd yn y Gymraeg a nodi meysydd lle gall dysgwyr elwa o gymorth ychwanegol.
Rhan allweddol o’r prosiect newydd fydd digideiddio’r system asesu, dan arweiniad Dr Esyin Chew o Ysgol Dechnolegau Met Caerdydd. Bydd y platfform digidol newydd yn caniatáu i ymarferwyr ysgol gyflwyno sgoriau asesu yn electronig a derbyn canlyniadau safonol ochr yn ochr ag argymhellion wedi’u teilwra i gefnogi dysgwyr ar lefel unigol, dosbarth ac ysgol gyfan.
Dywedodd Dr Rhiannon Packer:
“Mae’r cyllid hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer asesu llythrennedd cyfrwng Cymraeg. Trwy ymestyn GoFaL ar draws ystod oedran ehangach a datblygu asesiad dealltwriaeth darllen newydd, byddwn yn gallu darparu tystiolaeth gryfach i ysgolion am ddatblygiad llythrennedd dysgwyr drwy gydol eu taith addysgol.
“Ein huchelgais yw i GoFaL drawsnewid sut mae anghenion llythrennedd yn cael eu nodi a’u cefnogi yn Gymraeg. Rydym am roi offer ymarferol a data dibynadwy i athrawon a all helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau llythrennedd cryf a chyflawni eu potensial llawn.”
Bydd tîm y prosiect yn gweithio’n agos gydag ysgolion ledled Cymru i safoni’r asesiad estynedig yn erbyn poblogaeth ysgolion Cymru, gan sicrhau bod yr offeryn yn darparu meincnodau cadarn a dibynadwy i addysgwyr.
Dywedodd Dr Chew: “Bydd gweithio gydag ysgolion ledled Cymru yn ganolog i lwyddiant y prosiect hwn. Bydd eu cyfranogiad yn ein helpu i greu asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymarferol, gan gefnogi athrawon i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n cael effaith wirioneddol ar ganlyniadau dysgwyr.”
Disgwylir i’r asesiad GoFaL estynedig a’r platfform digidol cysylltiedig gael eu cwblhau erbyn mis Gorffennaf 2029, gan wella mynediad at asesiad llythrennedd cyfrwng Cymraeg a chryfhau’r gefnogaeth i ddysgwyr ledled Cymru.