Myfyriwr PhD Met Caerdydd yn sicrhau fisa talent byd-eang mawreddog yn dilyn llwyddiant ymchwil
Mae un o raddedigion o Brifysgol Metropolitan Caerdydd y mae ei ymchwil yn helpu i fynd i'r afael ag un o heriau anafiadau mwyaf dybryd ym maes chwaraeon wedi sicrhau Fisa Talent Byd-eang mawreddog y DU, sy’n cydnabod ei enw da cynyddol yn rhyngwladol fel ymchwilydd sy'n dod i'r amlwg.
Cwblhaodd Dr Akhilesh Ramachandran, 33, sydd yn wreiddiol o Chennai, India ei PhD mewn Biomecaneg Chwaraeon ym Met Caerdydd yn ddiweddar a graddiodd ym mis Gorffennaf. Mae wedi derbyn Fisa Talent Byd-eang y DU trwy adolygiad gan gymheiriaid y Gymdeithas Frenhinol, rhaglen hynod gystadleuol sydd wedi'i chynllunio i ddenu ymchwilwyr ac arloeswyr eithriadol i'r DU.

Ymunodd Akhilesh â Met Caerdydd am y tro cyntaf trwy ysgoloriaeth PhD a ariennir gan yr Is-Ganghellor ac mae wedi mynd ymlaen i greu portffolio ymchwil trawiadol sy'n cwmpasu perfformiad chwaraeon, gofal iechyd ac atal anafiadau.
Canolbwyntiodd ymchwil doethurol Akhilesh ar nodi ffactorau biomecanyddol sy'n gysylltiedig â risg o anafiadau i’r ligament croesffurf blaen (ACL) mewn athletwyr benywaidd ifanc. Bu’n astudio sut y gall tyfu a datblygu, yn ogystal â gwahaniaethau rhwng y ddwy goes, newid sut mae pobl yn neidio ac yn glanio. Edrychodd hefyd ar ba mor gywir y gellir mesur y symudiadau hyn ac a all hyfforddiant realiti rhithwir helpu pobl i ddysgu ffyrdd mwy diogel o symud. Y nod ehangach oedd gwella adnabod ffactorau risg posibl y gellir eu haddasu'n gynnar a llywio strategaethau i leihau'r risg o anafiadau i’r ACL.
Canolbwyntiodd ymchwil doethurol Akhilesh ar ddeall pam mae athletwyr benywaidd ddwy i dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau i’r ligament croesffurf blaen (ACL) nag athletwyr gwrywaidd, ac ar nodi ffactorau risg a datblygu strategaethau i leihau'r risg o anafiadau cyn iddynt ddigwydd.
Ers cwblhau ei PhD, mae Akhilesh wedi parhau i gyfrannu at gymuned ymchwil Met Caerdydd, drwy gefnogi astudiaethau achos ymchwil a gweithio ar brosiect dan arweiniad Dr Lucy Kember i sefydlu clinig ACL yn y Brifysgol.
Meddai Akhilesh: "Mae derbyn y Fisa Talent Byd-eang yn garreg filltir bwysig i mi ac mae'n adlewyrchu'r gefnogaeth, y cyfleoedd a'r anogaeth rydw i wedi'u derbyn yn ystod fy amser ym Met Caerdydd.
"Pan gyrhaeddais o India i ddechrau fy PhD, cefais fy nghroesawu i amgylchedd ymchwil a heriodd fi i ddatblygu fel gwyddonydd tra hefyd yn fy nghefnogi'n bersonol. Rhoddodd Met Caerdydd y llwyfan i mi ddatblygu fy sgiliau, adeiladu cydweithrediadau rhyngwladol a dilyn ymchwil a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau athletwyr.
"Mae Caerdydd wedi dod yn ail gartref. Mae'n ddinas fywiog gyda diwylliant chwaraeon gwych, ac mae awyrgylch cefnogol y Brifysgol wedi ei gwneud yn lle gwych i fyw, gweithio a datblygu fy ngyrfa."
Dechreuodd taith Akhilesh i fyd biomecaneg chwaraeon ar ôl iddo astudio peirianneg drydanol a chyfuno ei angerdd am chwaraeon â diddordeb mewn technoleg a gwyddor perfformiad. Ac yntau yn dod o deulu â chysylltiadau chwaraeon cryf, gan gynnwys ewythr a weithiodd fel hyfforddwr cryfder a chyflyru gyda thîm a enillodd Cwpan Criced y Byd India, cafodd ei ysbrydoli i archwilio sut y gall ymchwil ac arloesi wella perfformiad a lles athletwyr.
Meddai'r Athro Jon Oliver, Deon Cyswllt Ymchwil yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd:
"Mae cyflawniad Akhilesh yn dyst i'w dalent, ei ymroddiad a'i uchelgais, yn ogystal â'r amgylchedd ymchwil rhagorol rydym yn ymdrechu i'w ddarparu ym Met Caerdydd.
"Fe gyrhaeddodd fel ymchwilydd doethurol rhyngwladol ac mae wedi datblygu i fod yn ymchwilydd gyrfa gynnar hynod gynhyrchiol gyda phroffil rhyngwladol cynyddol gryf. Mae sicrhau Fisa Talent Byd-eang yn gyflawniad arwyddocaol ac mae'n tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ffynnu ac adeiladu gyrfaoedd ymchwil llwyddiannus yma yng Nghaerdydd."