Partneriaeth Met Caerdydd yn ennill anrhydedd am rymuso arweinwyr benywaidd y dyfodol
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael ei chydnabod fel rhan o bartneriaeth arobryn yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2026, gyda Rhaglen LeadHERship Tîm Cymru yn ennill gwobr menter cydweithrediad orau.

Cafodd y rhaglen, a gyflwynwyd gan Dîm Cymru mewn partneriaeth â Met Caerdydd a chwmni RBC Brewin Dolphin, ei chydnabod am ddod â chwaraeon a busnes ynghyd i gefnogi, grymuso a datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr benywaidd. Cyflwynwyd y wobr yng Ngwobrau Diwydiant Chwaraeon Cymdeithas Chwaraeon Cymru ddydd Iau 4 Mehefin, gyda Rhaglen LeadHERship wedi’i henwi’n enillydd mewn categori a oedd hefyd yn cynnwys Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac Actif Sport & Leisure.
Crëwyd y Rhaglen LeadHERship i roi lle i fenywod ar draws chwaraeon a busnes ddysgu, rhannu profiadau, meithrin hyder a datblygu’r rhwydweithiau sydd eu hangen i symud ymlaen mewn rolau arweinyddiaeth.
Mae’r rhaglen wedi cael ei chefnogi gan Dr Kerry Harris a Dr Sofia Santos o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ochr yn ochr â phartneriaid o Dîm Cymru ac RBC Brewin Dolphin gyda chyfraniad gan Belinda Houghton-Jones, Laura Williams, yr Athro Katie Thirlaway a’r Athro Rachael Langford, yn ogystal â charfan gynaf LeadHERship a’r siaradwyr gwadd a helpodd i lunio’r profiad dysgu.
Cynlluniwyd y Rhaglen LeadHERship i rymuso menywod mewn rolau arweinyddiaeth ar draws chwaraeon a busnes, mae’r amcanion yn cynnwys meithrin hyder, codi ymwybyddiaeth o ddeinameg rhywedd, datblygu rhwydweithiau cymorth a helpu cyfranogwyr i lywio amgylcheddau proffesiynol. Mae’r rhaglen flwyddyn o hyd yn cynnwys sesiynau preswyl, dysgu ar-lein a mynediad at arweinwyr ysbrydoledig o’r ddau sector.
Dywedodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd: “Rydym wrth ein bodd yn gweld y rhaglen LeadHERship yn cael ei chydnabod. Adeiladwyd y fenter hon ar y gred y gallai cydweithio rhwng chwaraeon a busnes greu newid go iawn, ac mae gweithio ochr yn ochr â Thîm Cymru a chwmni RBC Brewin Dolphin wedi ein galluogi i gyrraedd a chefnogi rhwydwaith eithriadol o fenywod ysbrydoledig. Mae Dr Kerry Harris a Dr Sofia Santos wedi rhoi arweiniad rhagorol i’n carfan gyntaf, ac rydym yn gyffrous i weld sut maen nhw’n parhau i dyfu a llwyddo.”
Disgwylir i ail garfan Rhaglen LeadHERship Tîm Cymru gael ei hysbysebu’n fuan.