Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored Israddedig, cofrestrwch nawr

Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chlwb Rygbi’r Dreigiau’n ymuno i hybu addysg, ymchwil a datblygiad chwaraewyr

19 Hydref 2026

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Chlwb Rygbi’r Dreigiau wedi cyhoeddi partneriaeth ffurfiol a fydd yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg uwch a rygbi proffesiynol, gan greu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr, hyfforddwyr, chwaraewyr a staff wrth gefnogi datblygiad y gêm yn y dyfodol yng Nghymru.

Bydd y bartneriaeth yn dwyn ynghyd arbenigedd blaenllaw Met Caerdydd mewn addysg, ymchwil a datblygiad proffesiynol â phrofiad Clwb Rygbi’r Dreigiau mewn chwaraeon elitaidd i greu cyfleoedd ymarferol ar gyfer dysgu, arloesi a datblygu gyrfa.

From left to right: Arthur Moore, Cardiff Met Men's Club Captain and BUCS Super Rugby squad player, Professor Rachael Langford, VC of Cardiff Met, Rhys Blumberg, CEO of Dragons RFC and Amelia Bailey, Cardiff Met women's performance squad and BUCS Super Rugby player.
(De i chwith): Arthur Moore, Capten Clwb Dynion Met Caerdydd a chwaraewr carfan Super Rugby BUCS, yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor Met Caerdydd, Rhys Blumberg, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi'r Dreigiau ac Amelia Bailey, Carfan berfformio menywod Met Caerdydd a chwaraewr Super Rugby BUCS.

 

Bydd y cydweithrediad yn canolbwyntio ar feysydd gan gynnwys addysg hyfforddwyr, ymchwil gymhwysol, datblygiad proffesiynol, llwybrau talent a lleoliadau myfyrwyr. Drwy gysylltu gwybodaeth academaidd â phrofiad yn y byd go iawn, nod y bartneriaeth yw helpu myfyrwyr i gael amlygiad gwerthfawr yn y diwydiant, cefnogi datblygiad hyfforddwyr ac ymarferwyr, a chyfrannu at ddatblygiadau ym mherfformiad a lles chwaraewyr. 

Bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleoedd i weithio o fewn amgylchedd chwaraeon proffesiynol, gan eu helpu i feithrin sgiliau, profiad a chysylltiadau â'r diwydiant. Ar yr un pryd, bydd Clwb Rygbi’r Dreigiau yn gallu defnyddio arbenigedd academaidd a galluoedd ymchwil Met Caerdydd i helpu i fynd i’r afael â heriau o ran datblygu chwaraewyr, perfformiad ac arfer sefydliadol.

Disgwylir hefyd i'r bartneriaeth gefnogi ymgysylltiad cymunedol ehangach a chreu llwybrau cryfach rhwng addysg, cyflogaeth a chwaraeon elitaidd, gan helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o dalent rygbi a gweithwyr proffesiynol chwaraeon ledled Cymru. 

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:

“Fel Prifysgol Chwaraeon Cymru, rydym yn falch iawn o ffurfioli ein partneriaeth â Chlwb Rygbi'r Dreigiau heddiw. Mae Clwb Rygbi’r Dreigiau yn sefydliad sydd â threftadaeth rygbi balch, gwreiddiau dwfn ar draws de-ddwyrain Cymru ac ymrwymiad eithriadol i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

“Mae'r bartneriaeth ffurfiol hon yn cyfuno’n dau sefydliad at ei gilydd drwy ein hymrwymiad cyffredin i ddatblygu'r gêm rygbi ac i addysg, cynhwysiant a chyfleoedd. Trwy gyfuno arbenigedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn addysg chwaraeon, ymchwil ac ymarfer proffesiynol gydag ymrwymiad Clwb Rygbi'r Dreigiau i ragoriaeth a phrofiad o ddatblygu'r gêm broffesiynol, byddwn yn creu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr, hyfforddwyr, staff cymorth ac ymarferwyr, gan gryfhau dyfodol rygbi yng Nghymru."

Dywedodd Rhys Blumberg, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Rygbi’r Dreigiau:

“Rydym yn falch o sefydlu’r bartneriaeth ffurfiol hon gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae addysg, dysgu parhaus a datblygiad pobl yn hanfodol i lwyddiant hirdymor rygbi proffesiynol, ar y cae ac oddi arno.

“Bydd gweithio gyda Met Caerdydd yn ein galluogi i archwilio cyfleoedd newydd mewn addysg hyfforddwyr, ymchwil gymhwysol, lleoliadau myfyrwyr a datblygu chwaraewyr, gan gryfhau ein cysylltiadau â’r genhedlaeth nesaf o dalent. Rydym yn arbennig o gyffrous am y potensial i rannu gwybodaeth, creu llwybrau datblygu ystyrlon a gweithio gyda'n gilydd ar fentrau sy'n fuddiol i'n hamgylchedd perfformio a'r gymuned ehangach.”