Skip to content

Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn sicrhau £18 Miliwn i gyflymu cynlluniau campws sero net

2 Ebrill 2026
A building with large windows featuring the sign Cardiff Metropolitan University on a brick wall. A blue sky with clouds is visible above. A building with large windows featuring the sign Cardiff Metropolitan University on a brick wall. A blue sky with clouds is visible above.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi sicrhau £18 miliwn mewn cyllid benthyciadau cost isel gan Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith i ddadgarboneiddio ei champysau.

Mae'r cyllid, a ddyfarnwyd drwy estyniad i gynllun Rownd 2 Digarbon, ac a ddarparwyd gan Salix Finance, yn dod â chyfanswm cefnogaeth Digarbon y Brifysgol i £24.2 miliwn, yn dilyn £6.2 miliwn a ddyfarnwyd ym mis Rhagfyr 2025.

Yn amodol ar asesiad technegol llawn, bydd y buddsoddiad yn ariannu systemau gwresogi carbon isel ychwanegol, cynhyrchu solar estynedig, goleuadau sy'n effeithlon o ran ynni ac uwchraddio adeiladau ar draws ystâd Met Caerdydd, gan dorri allyriadau a lleihau costau ynni hirdymor. Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn lleihau allyriadau carbon yn sylweddol ac yn cryfhau gwydnwch ystâd y Brifysgol.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd cryf drwy fenter wobrwyedig "Hanneru'r Hanner" Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a gyflawnodd ostyngiad o 33% yn y defnydd o nwy, toriad o 10% yn y defnydd o drydan a gostyngiad o 20% yn y defnydd o ddŵr mewn dwy flynedd, gan arbed mwy na £1.8 miliwn heb waith cyfalaf mawr.

Bydd y cyllid diweddaraf yn cefnogi cam nesaf y gwelliannau i gael gwared ar wresogi nwy o sawl adeilad, cynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle a chyflwyno storfa batri i leihau dibyniaeth ar y gridiau ynni.

Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd: "Mae'r buddsoddiad sylweddol hwn yn gymeradwyaeth gref o'r cynnydd y mae Met Caerdydd wedi'i wneud ar ein taith ddatgarboneiddio, ac o'n huchelgais i barhau i arwain ar gynaliadwyedd mewn addysg uwch."

“Gan adeiladu ar ein menter Haneru’r Hanner a’n dyfarniad Digarbon cychwynnol, mae’r cyllid hwn yn caniatáu inni gyflawni cyfnod newydd o welliannau parhaol a fydd yn lleihau allyriadau, yn gostwng costau ac yn creu amgylcheddau mwy cynaliadwy i’n myfyrwyr, staff a chymunedau.”

Dywedodd Graham Lewis, Prif Swyddog Amgylcheddau Prifysgol: “Gyda llai na 1,200 o ddiwrnodau gwaith ar ôl i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i sero net erbyn 2030, mae’r cyllid hwn yn caniatáu inni symud yn gyflymach ar raddfa fawr.

“Mae’r cam nesaf hwn yn ymwneud ag adeiladu ar y gwaith hyd yma a chryfhau ein gwydnwch ynni er mwyn cael canlyniadau sy’n well i’n harian, ein hôl troed carbon a’n cymunedau lleol.”

Dywedodd Gbenga Adenaike, Rheolwr Rhaglen Digarbon: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Cymru i helpu’r sector cyhoeddus i gyflawni ei uchelgais i fod yn sero net erbyn 2030. Bydd y cyllid pellach hwn yn galluogi Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor i ddatblygu prosiectau hanfodol a chyffrous ymhellach fyth.

“Mae Digarbon wedi profi’n boblogaidd iawn ac mae’r galw am y gefnogaeth wedi bod yn gyson yn fwy na’r cyflenwad, a chyda rhaglenni parhaus ar waith, mae’r sefydliadau hyn mewn sefyllfa dda i addasu ac ehangu eu gweithgareddau’n gyflym i fodloni cyfleoedd ariannu ychwanegol wrth iddynt godi.”

Mae cynllun Digarbon yn darparu cyllid benthyciadau llog isel i sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru i gefnogi datgarboneiddio gwres, effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan Salix Finance, mae'r cynllun yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i'r sector cyhoeddus gyrraedd sero net erbyn 2030.

Yn ddiweddar, cafodd Met Caerdydd ei rhestru'n gyntaf yng Nghymru ac yn y deg uchaf yn y DU yng Nghynghrair Prifysgolion Pobl a Phlaned 2025/26. Mae menter Haneru’r Hanner hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times, a'r Gwobrau Adeiladu Digidol.