Prosiect Met Caerdydd yn anelu at Wella Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid
Wedi’i gyflwyno gan Platfform, elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol yng Nghymru, mae Power Up yn darparu cefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc sy’n profi heriau iechyd meddwl. Mae’r rhaglen yn cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys rhaglenni lles, cefnogaeth gan gymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth un-i-un a chyfleoedd gwirfoddoli – gan helpu pobl ifanc i feithrin gwydnwch, hyder a chysylltiadau o fewn eu cymunedau.
Daw’r fenter ar adeg dyngedfennol i iechyd meddwl pobl ifanc yng Nghymru. Mae adroddiadau diweddar yn dangos dirywiad sylweddol yn iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru, gan amlygu’r angen brys am wasanaethau cymorth hygyrch ac effeithiol.
Mae tîm ymchwil o Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant (CAWR) Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o’r rhaglen tair blynedd. Nod yr astudiaeth yw:
- Deall y newidiadau y mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w cyflawni
- Archwilio ei effaith uniongyrchol ar lesiant pobl ifanc
- Nodi ei ddylanwad ehangach ar systemau sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc
Dywedodd Dr Paul Sellars o dîm ymchwil CAWR: “Rydym yn gwybod bod angen brys am well gwasanaethau cymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Rydym yn cydweithio â thîm Power Up i fapio pa newidiadau y mae disgwyl i’r rhaglen eu gwneud.
“Mae’r tîm yn defnyddio dull o’r enw ‘mapio effeithiau tonnog’ i ddeall effaith lawn y rhaglen, gan gynnwys effeithiau nad ydynt yn amlwg ar y dechrau. Rydym yn gwneud hyn drwy weithdai, gweithgareddau, trafodaethau grŵp a chyfweliadau un-i-un. Mae pobl ifanc yn rhan allweddol o’r broses hon, felly mae eu barn a’u profiadau wrth wraidd deall sut mae’r rhaglen yn gwneud gwahaniaeth.
“Gobeithiwn y gallwn ddarparu cipolwg gwerthfawr ar sut y gall ymyriadau cymunedol fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl cynyddol plant a phobl ifanc a llywio polisi ac arfer yn y dyfodol ledled Cymru a thu hwnt.”