Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Ymchwil Met Caerdydd yn Dangos y Gall Cerbydau Clyfar Bweru Dinasoedd Clyfar y Dyfodol

1 Hydref 2026

Gall cerbydau clyfar wneud mwy na dim ond cludo pobl, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n dangos sut y gall pŵer cyfrifiadurol, synwyryddion, cysylltedd a batris helpu dinasoedd i ddod yn fwy craff, yn fwy gwyrdd ac yn fwy ymatebol.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol Beirut Arab, wedi datblygu fframwaith newydd sy'n trawsnewid cerbydau cysylltiedig a deallus yn adnoddau gwerthfawr ar gyfer dinasoedd clyfar.

Mae'r astudiaeth yn cyflwyno Systemau Cerbydau Cysylltiedig a Deallus fel Adnoddau (CI-VSaR), fframwaith sy'n galluogi dinasoedd i ddefnyddio’r galluoedd  sydd eisoes ar gael mewn cerbydau modern, gan gynnwys cyfrifiaduron, camerâu, synwyryddion, systemau cyfathrebu a batris.

Yn hytrach na bod yn ddull o deithio’n unig, gall cerbydau cysylltiedig, awtonomaidd a thrydanol ddod yn rhan o rwydwaith ledled y ddinas sy'n cefnogi gwasanaethau fel rheoli traffig, monitro amgylcheddol, diogelwch y cyhoedd, cyfathrebu brys, storio ynni a chyfrifiadura gwasgaredig.

Dywedodd yr Athro Issam Damaj, Pennaeth Cyfrifiadureg ym Met Caerdydd:

"Mae cerbydau modern yn cynnwys ystod unigryw o dechnolegau sy'n aml yn cael eu tanddefnyddio. Mae ein hymchwil yn dangos, drwy drin cerbydau fel rhan o ecosystem dinas glyfar ehangach, y gallwn ddatgloi galluoedd sy'n cefnogi dinasyddion, cymunedau a seilwaith cyhoeddus.

"Y weledigaeth yw ymestyn y tu hwnt i’r syniad o gerbydau fel asedau trafnidiaeth yn unig. Gallai'r pŵer cyfrifiadurol, y galluoedd cyfathrebu, y synwyryddion a'r adnoddau ynni sydd eisoes ar gael mewn llawer o gerbydau helpu i fynd i'r afael â heriau trefol go iawn, o dagfeydd traffig a chynaliadwyedd i ddiogelwch y cyhoedd a chydnerthedd ynni.

"Mae ein canfyddiadau'n dangos bod y dull hwn yn dechnegol ymarferol ac yn un y gallwn ei ddatblygu. Yn bwysig, rydym wedi canolbwyntio ar wneud yn siŵr bod pobl yn parhau i fod wrth wraidd y systemau hyn drwy gydbwyso perfformiad technolegol ag anghenion a disgwyliadau dynol."

Profodd ymchwilwyr y cysyniad gan ddefnyddio efelychiadau yn cynnwys 1,000 o gerbydau yn gweithredu o fewn amgylchedd dinas glyfar. Dangosodd y canlyniadau y gallai'r system nodi adnoddau’r cerbydau sydd ar gael yn llwyddiannus, a’u dyrannu'n effeithlon a chynnal gwasanaeth o ansawdd uchel.

Er y bydd angen cynnal rhagor o brofion yn y byd go iawn, mae'r ymchwilwyr yn credu bod y fframwaith yn darparu sylfaen ar gyfer gwasanaethau dinasoedd clyfar yn y dyfodol sy'n gwneud defnydd gwell o adnoddau presennol wrth wella cynaliadwyedd ac ansawdd bywyd.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan yr Athro Issam Damaj a Dr Fiona Carroll o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ochr yn ochr â'r Athro Mehmet E. Aydin o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Abdallah H. Salem o Brifysgol Beirut Arab, a'r Athro Omer Rana o Brifysgol Caerdydd.