Yn erbyn pob tebyg: Rhiant sengl yn ennill anrhydeddau o'r radd flaenaf drwy brentisiaeth gradd
Roedd myfyrwraig hŷn o Goed-duon yn rhagori ar ei disgwyliadau ei hun pan benderfynodd ymgymryd â phrentisiaeth gradd ochr yn ochr â bod yn fam sengl — ac aeth ymlaen i raddio gydag anrhydedd o'r radd flaenaf.
Penderfynodd Kelly Mason, 38, gofrestru ar Brentisiaeth Gradd Gwyddor Data Gymhwysol - BSc (Anrh) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i uwchsgilio, cael cymwysterau a gwella rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.

Gadawodd Kelly, sy’n fam i un yr ysgol yn 16 oed ac aeth i'r coleg i ddechrau i astudio Safon Uwch - ond ar ôl penderfynu nad oedd hwn yn llwybr yr oedd am ei ddilyn - mae hi wedi bod mewn gwaith llawn amser ers iddi fod yn 18 oed.
Dywedodd Kelly: “Rwyf wedi bod yn berson ymarferol, yn hytrach na dysgwr academaidd erioed, ac ar ôl gorffen yn y coleg roeddwn i'n teimlo'n barod i ddechrau gweithio. Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio i fanc ac yna'n arbenigo mewn benthyciadau a morgeisi gwarantedig, cyn mynd ymlaen i weithio i gwmnïau amrywiol ar draws y sector gwasanaethau ariannol a data dros gyfnod o 20 mlynedd.”
Yn 2010, pan gafodd Kelly swydd gyda chwmni o'r enw Creditsafe Business Solutions Limited, y cafodd flas am wyddor data am y tro cyntaf.
Dywedodd Kelly: “Dechreuais mewn gwerthiannau i ddechrau, ond roedd fy rôl yn cynnwys gweithio gyda data ac adrodd, a dyna pryd dechreuais sylweddoli faint roeddwn i'n mwynhau dadansoddi ac awtomeiddio prosesau.”
Mae Prentisiaeth Gradd BSc (Anrh) Gwyddor Data Cymhwysol ym Met Caerdydd yn canolbwyntio ar ddata, ac yn adeiladu gallu prentisiaid i dynnu mewnwelediadau, gwybodaeth a deallusrwydd o'r pwyntiau data cymhleth sydd bellach yn hollbresennol ym myd busnes.
Dechreuodd Kelly ei phrentisiaeth gradd gyda hyfforddiant ALS - darparwr blaenllaw o hyfforddiant seiliedig ar waith - lle cyflawnodd Lefel 4 mewn dadansoddeg data. Yna, penderfynodd Kelly fynd ymlaen a chwblhau'r ddwy flynedd ddilynol o'r radd gyda Met Caerdydd.
“Roedd cael yr hyblygrwydd i oedi a myfyrio ar ôl cwblhau Lefel 4 yn wych. Roeddwn i'n gallu cymhwyso fy nysgu i heriau'r byd go iawn, a dyna pryd sylweddolais fy mod am barhau a dilyn y radd lawn,” ychwanegodd Kelly.
Caiff swyddi gwag prentisiaethau gradd eu hysbysebu a'u rheoli gan gyflogwyr. Mae Met Caerdydd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflogwyr ledled Cymru. Rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth berthnasol llawn amser mewn rôl sy'n cyd-fynd â Manyleb Fframwaith Prentisiaeth Gradd Ddigidol Cymru ar gyfer prentisiaeth gradd gwyddor data cymhwysol.
Yn ystod ei gradd ym Met Caerdydd, dyrchafwyd Kelly i fod yn beiriannydd data yn Creditsafe — cwmni sy'n helpu busnesau i gynyddu gwerthiannau a lleihau amlygiad i risg credyd cwsmeriaid — ac mae bellach yn gweithio yn eu Canolfan Cymorth Gweithredol Grŵp.
Gan gynnig cyngor i fyfyrwyr hŷn eraill a allai fod yn ystyried dychwelyd i addysg uwch, dywedodd Kelly: “Peidiwch ag amau eich hun - mae pob dim yn bosib. Roedd y Brifysgol bob amser yn teimlo fel rhywbeth nad oeddwn yn gallu ei wneud, ac er bod yn her i weithio ac astudio fel hunllef ar adegau - roedd y teimlad o lawenydd pan ddarganfyddais fy mod wedi cael gradd dosbarth gyntaf yn orfoleddus!”
Caiff y prentisiaethau gradd ym Met Caerdydd eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd a dyfernir gradd i weithwyr yn eu disgyblaeth ddethol.
Ar hyn o bryd mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd prentisiaethau gradd mewn nifer o ddisgyblaethau digidol ond mae'n edrych i ehangu'r cynnig hwn yn y dyfodol agos yn unol â datblygiadau gan Lywodraeth Cymru.