Andy Kelly
Uwch Ddarlithydd mewn Adsefydlu Chwaraeon a Thylino
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Mae Andy yn ddarlithydd, yn Ffisiotherapydd ac yn ymarferwr tylino cymwys ar raglen gradd BSc (Anrhydedd) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon ar ôl ymuno â’r ysgol yn 2012 wedi cyfnod yn gweithio ym maes rygbi’r undeb proffesiynol. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn nifer o leoliadau chwaraeon gwahanol, practis preifat a’r GIG.
O fewn yr ysgol, mae’n diwtor personol, yn arweinydd cyflogadwyedd i’r cwrs ac yn arweinydd modiwl.
Mae’n cyfrannu hefyd at y radd MSc mewn Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer yn ogystal â rhaglenni MSc eraill. Ynghyd â’r darlithio, mae wedi parhau i weithio ac ymgynghori fel ffisiotherapydd i Ganolfan Meddyginiaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd yn ogystal â chyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau chwaraeon eraill. Mae hyn yn cynnwys Rhwyfo Prydain Fawr, Hoci Cymru a Thenis Cymru ymysg eraill.