Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Ysgoloriaeth PhD: Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol

Cystadleuaeth Ysgoloriaeth YGGCC 2027

Mae’n bleser gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd a'r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol, ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (YGGCC) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybrau Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Addysg ac Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd, a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2027.  Dylai ceisiadau gyd-fynd yn fras â diddordebau ymchwil staff academaidd o fewn y llwybrau/ysgolion a chael eu trafod â darpar oruchwylwyr ymhell cyn gwneud cais. Ni fydd ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt wedi cysylltu a chael cefnogaeth goruchwylwyr posibl yn cael eu hystyried. Gellir gweld diddordebau ymchwil staff yma:

Os oes gennych ymholiad am Lwybr penodol, cysylltwch â'r Arweinwyr Llwybr:

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch ESSHRI@cardiffmet.ac.uk

Meini prawf mynediad

I dderbyn cyllid gan un o ysgoloriaethau ymchwil yr YGGCC, mae’n rhaid bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.  

Hyd yr astudiaeth

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 blynedd (PhD) i 4 blynedd (MSc + PhD) amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddoyn rhan-amser).

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr YGGCCgwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr YGGCC ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Gall hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir gwahaniaeth mewn ffi rhwng y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r YGGCC wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, mae’n bosib bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr.

Sut i wneud cais

Dylech gyflwyno ceisiadau erbyn 12yp ar 27 Tachwedd 2026, fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Mae hwn yn ddyddiad cau mewnol, cyn dyddiad cau YGGCC at ddiben rhoi adborth i ymgeiswyr y gellir ei ymgorffori yn eu cais terfynol a'u cyflwyno ar gyfer dyddiad cau YGGCC sef 14eg o Ragfyr 2026. O ganlyniad i nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Dylid cyflwyno'r holl geisiadau drwy e-bostio ESSHRI@cardiffmet.ac.uk gyda'r llinell bwnc WGSSS Gen ac enw'r llwybr perthnasol (Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg, Addysg neu Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd).

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:

  • Ffurflen Gais yr YGGCC
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol).
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad). Cyflwynwch y dogfennau uchod a ffurflen gais Ysgoloriaeth YGGCC fel un ddogfen Word erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Mae'n ofynnol i YGGCC adrodd ar ddata Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i'r ESRC, cyngor ymchwil y llywodraeth sy'n ariannu YGGCC. Cyn i chi gyflwyno'ch cais, cwblhewch y Ffurflen Data Cydraddoldeb ac Amrywiaeth YGGCC gysylltiedig.

Cyllid

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.

Os oes gennych chi anabledd, mae’n bosib y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.