Campws Cyncoed
Campws Cyncoed
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Ffordd Cyncoed
Caerdydd
CF23 6XD
Ffôn: 029 2041 6155
Mae Cyncoed yn gartref i Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Cyncoed).
Mae'n gampws prysur sy'n cynnig llety ar y safle a Chanolfan Campws bwrpasol, newydd. Mae'r campws yn cynnig cyfleusterau chwaraeon rhagorol, siop ar y safle, bariau coffi a ffreutur. Mae'r campws hefyd yn gweithredu fel prif swyddfa Undeb y Myfyrwyr a'r Undeb Athletau.
Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
Rydym yn falch o gadarnhau bod 12 x gwefrydd Cerbydau Trydan (22Kwh) bellach ar gael ar y campws hwn i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr (codir tâl).
Sut i'n cyrraedd ni
Bws
Mae Campws Cyncoed yn hawdd ei chyrraedd trwy'r Gwasanaethau Bysiau Caerdydd isod:
- O Ganol Dinas Caerdydd: Bws 52 yn teithio o Stryd Customhouse i Gampws Cyncoed Met Caerdydd.
- O Gampws Llandaf: Bws M1* yn teithio i Gampws Cyncoed Met Caerdydd.
Ar gyfer amserlenni a gwybodaeth teithio cyflawn, ewch i wefan Bws Caerdydd.
* Gwasanaeth amser tymor yn unig.
Trên
Mae gorsafoedd rheilffordd Lefel Uchel a Lefel Isel y Mynydd Bychan tua 25 munud ar droed o gampws Cyncoed, gan wasanaethu'r ardal o linellau Rhymni a Coryton. Gweler National Rail Enquiries am amseroedd trenau.
Beic
Mae Caerdydd yn elwa o rwydwaith o lwybrau seiclo, gan gynnwys nifer o lwybrau seiclo di-draffig. I gynllunio'ch taith ar feic i gampws Cyncoed, ewch i Cycle Streets.