Graddedigion Diweddar
‘Llongyfarchiadau i’n graddedigion diweddaraf o Met Caerdydd!’
Ni waeth ble mae bywyd yn mynd â chi ar ôl y brifysgol, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ar eich taith a’ch helpu i ymgysylltu â chymuned Met Caerdydd.
Fel cyn-fyfyrwyr, byddwch chi’n elwa o fod yn rhan o gymuned Met Caerdydd am weddill eich oes.
Byddwn yn eich helpu i:
- cadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol
- cyrchu adnoddau a chyngor gyrfaoedd
- cyrchu buddion fel ein Gostyngiad Astudio Pellach a chefnogaeth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Hynt Graddedigion
Mae’r Arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol a anfonir at yr holl raddedigion. Mae eich ymateb gwerthfawr yn ychwanegu at lais cyfunol graddedigion ledled y DU a bydd yn ysbrydoli ac yn hysbysu myfyrwyr y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am Hynt Graddedigion.
Diweddarwch Eich Manylion
Pan fyddwch chi’n graddio, byddwch chi’n cael eich cofrestru’n awtomatig i’n cylchlythyr digidol misol sy’n rhannu cymorth gyrfaoedd, adnoddau i raddedigion a newyddion Met Caerdydd! Fodd bynnag, gallwch chi ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu ar unrhyw adeg.
Gallwch chi hefyd danysgrifio i’n bwletin swyddi gwag misol i gadw lygad ar y swyddi gwag, yr interniaethau a’r cyfleoedd profiad gwaith diweddaraf i raddedigion.
Cefnogaeth Gyrfaoedd i Raddedigion
Am hyd at 3 blynedd ar ôl i chi raddio, gallwch gyrchu cymorth gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gall ein Cynghorwyr Cyflogadwyedd a’n Ymgynghorwyr Gyrfaoedd roi cyngor ar ysgrifennu CV, awgrymiadau cyfweliad, neu helpu chi i chwilio am swydd.
Darganfyddwch fwy am gefnogaeth gyrfaoedd.
Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau
Angen copi o’ch tystysgrif neu drawsgrifiadau, neu am ddysgu am Wirio Dyfarniadau?
Ar gyfer pob ymholiad, ewch i’n tudalennau Gwasanaethau'r Gofrestrfa.
Buddion a Gwasanaethau
Mae Met Caerdydd yn cynnig cynllun sy’n caniatáu gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu i raddedigion Met Caerdydd sy’n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig.
Darganfyddwch fwy am yr holl fanteision rydych chi’n eu derbyn fel cyn-fyfyriwr Met Caerdydd.