Cymdeithasau
Mae gennym ystod amrywiol o gymdeithasau ym Met Caerdydd, ac yma yn yr Ysgol Dechnolegau rydym yn falch o'r cymdeithasau y maes ein myfyrwyr wedi’u dechrau - sydd ddim yn ymwneud â thechnoleg yn unig! O'n Swifties i'n Dringwyr a Chwaraewyr Gemau Fideo, rydyn ni’n siŵr y gallwch chi dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Ac os na welwch unrhyw beth sy'n mynd â'ch sylw, gallwch ddechrau eich cymdeithas eich hun gyda chefnogaeth lawn gan ein tîm Undeb y Myfyrwyr. Mae cymdeithasau’n ffordd wych o gysylltu â phobl o’r un anian, cael mwy allan o’r brifysgol, darganfod diddordeb neu sgil newydd, a mwynhau eich hun.

"Ymunais â’r gymdeithas CTF yn ôl ym mis Medi 2023, ac ers hynny rwyf wedi bod yn dysgu mwy am hacio, offer a thechnegau moesegol. Ym mis Ionawr 2024, cymerais drosodd fel capten, gan barhau i ddarparu sesiynau sy'n hawdd i aelodau newydd fynd atynt a'u helpu i ddeall pwysigrwydd Seiberddiogelwch wrth i ni symud ymlaen i'r dyfodol. Ein nod yw creu gofod lle gall pawb ddysgu'n hawdd - o ddiogelwch Wi-Fi i sut mae gwendidau mewn gwefannau yn cael eu darganfod, ac i nodi'r diffygion a welir mewn technoleg, yn gorfforol ac yn rhithwir. Rydym hefyd yn cadw llygad am ddigwyddiadau i aelodau sy’n chwilio am her ac sydd am gymhwyso eu sgiliau i unrhyw fath o senario."
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Cymdeithas Capture the Flag

“Dechreuais y gymdeithas dringo creigiau i geisio cael mwy o fyfyrwyr technoleg i ymgysylltu’n gorfforol gan ein bod fel arfer yn tueddu i dreulio llawer o amser yn eistedd o flaen cyfrifiadur! Mae’r gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth, fe ddechreuom gyda dim ond 4 aelod i nawr lle mae gennym 78 o aelodau. Nid yw'r gymdeithas yn ymwneud â'r dringfeydd wythnosol am ddim yn unig, mae'n ymwneud â'r elfen gymdeithasol hefyd. Rydym yn cynnal digwyddiad cymdeithasol wythnosol ac yn trefnu gweithgareddau fel sglefrio iâ neu brydau allan. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r ymdeimlad hwnnw o berthyn o fewn y gymuned ac mae dringo creigiau wedi gwneud hyn mor gryf, nid yn unig i’r gymdeithas, ond i’r Ysgol Dechnolegau hefyd.”
BSc (Anrh) Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol
Sylfaenydd y Gymdeithas Dringo
"Fe wnaeth creu Formula Met danio fy angerdd dros F1 a rhoi profiad ymarferol i mi mewn dylunio, gwaith tîm ac arweinyddiaeth - gan fy helpu i gael lleoliad gyda McLaren Automotive yn y pen draw."
BSc (Anrh) Diogelwch Cyfrifiadurol
Cymdeithas Formula Met