Telerau ac Amodau
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o gynnig Gwarant Llety Clirio ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymuno â'r Brifysgol drwy Glirio ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Cymhwysedd
I fod yn gymwys ar gyfer y Warant Llety Clirio, rhaid i ymgeiswyr:
- Derbyn cynnig cwrs Clirio Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer mynediad ym mis Medi 2026.
- Cyflwyno cais am lety wedi'i gwblhau erbyn 5yp ar 17 Awst 2026.
- Bodloni meini prawf cymhwysedd llety y Brifysgol.
Beth mae'r Warant yn ei Olygu
Bydd ymgeiswyr cymwys yn derbyn cynnig llety ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Gellir cael cynnig llety naill ai mewn preswylfeydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd neu gydag un o bartneriaid llety dibynadwy y Brifysgol yng Nghaerdydd.
Yr hyn nad yw'n cael ei Warantu
Mae'r Warant Llety Clirio yn warant o gael cynnig llety, nid gwarant o ystafell neu breswylfa benodol.
Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ystyried dewisiadau ymgeiswyr, ni allwn warantu:
- darparwr preswylfa neu lety penodol;
- campws neu leoliad penodol;
- math penodol o ystafell, gan gynnwys llety ensuite, safonol, arlwyo nac hunanarlwyo;
- band pris a ffefrir; neu
- llety gyda ffrindiau neu ymgeiswyr eraill a enwir.
Bydd llety yn cael ei ddyrannu yn ôl argaeledd ar yr adeg y gwneir cynigion.
Ymgeiswyr sydd â Gofynion Llety Ychwanegol
Dylai ymgeiswyr sydd angen addasiadau llety oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu angen arall a aseswyd gynnwys y wybodaeth hon yn eu cais am lety.
Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn gwneud pob ymdrech resymol i ddarparu llety addas sy'n diwallu anghenion a aseswyd. Pan fo angen llety arbenigol, bydd dyraniadau'n cael eu gwneud yn amodol ar addasrwydd ac argaeledd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae'r Warant Llety Clirio yn berthnasol i ymgeiswyr cymwys yn unig sydd wedi derbyn eu cynnig cwrs Clirio Met Caerdydd ac wedi cyflwyno eu cais am lety erbyn 5yp ar 17 Awst 2026.
Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn parhau i gael eu hystyried ond ni fyddant yn cael eu cwmpasu gan y Warant Llety Clirio.
Mae'r warant hon yn ymwneud â darparu cynnig llety yn unig ac nid yw'n rhan o broses derbyn academaidd y Brifysgol.
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r warant hon yn ôl dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.