Darganfyddwch gyfoeth o gyfleoedd gyda’n graddau Cyfrifeg, Economeg a Chyllid ym Met Caerdydd. Wedi’u cynllunio gydag anghenion diwydiant mewn golwg, mae gennych hyd yn oed yr opsiwn o dreulio blwyddyn yn y diwydiant i ennill profiad yn y byd go iawn cyn graddio.
Dysgwch gan ein heconomegwyr, cyfrifwyr a darlithwyr ariannol arbenigol yn Ysgol Reoli Caerdydd, sydd nid yn unig yn feddylwyr academaidd ac ymchwilwyr gweithredol, ond yn weithwyr proffesiynol sy’n rhannu eu profiad eu hunain yn y diwydiant.
01 - 04
Ein Cyfleusterau
Ysgol Reoli Caerdydd
Mae ein hadeilad modern Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol wrth ddarparu cymorth eithriadol.
Gallwch fanteisio ar fynediad o bell i feddalwedd orau’r diwydiant i ddadansoddi data ariannol y byd go iawn i ennill profiad ymarferol cyn i chi hyd yn oed raddio.
Buddsoddwch yn Eich Dyfodol
Blwyddyn Ddewisol mewn Diwydiant
Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Gall lleoliad blwyddyn o hyd roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Buddsoddwch yn Eich Dyfodol
Cysylltiadau yn y Diwydiant
Manteisiwch ar ein cysylltiadau eang yn y diwydiant drwy ddarlithoedd gwadd dan arweiniad arbenigwyr, teithiau maes a hyd yn oed y cyfle i astudio dramor. Byddwch yn graddio gyda’r profiad ymarferol, y sgiliau datrys problemau a’r sgiliau digidol i lansio gyrfa lwyddiannus.
01 - 04
Achrediadau ac Aelodaeth Broffesiynol
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.