Byddwch yn barod ar gyfer y diwydiant a dod yn arweinydd busnes y dyfodol gyda’n graddau Busnes a Rheoli ym Met Caerdydd.
Mae ein gradd Busnes a Rheoli yn cynnig hyblygrwydd i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb i chi, gyda llwybrau mewn Entrepreneuriaeth, Cyllid, AD, Marchnata, a Rheoli Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Logisteg. Rydym hefyd yn cynnig gradd arbenigol mewn Rheoli Hedfan i helpu i gychwyn eich gyrfa yn y sector awyrennau.
01 - 04
Ein Cyfleusterau
Ysgol Reoli Caerdydd
Mae ein hadeilad modern Ysgol Reoli Caerdydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli arweinwyr busnes y dyfodol wrth ddarparu cymorth eithriadol.
Gyda’n gradd Busnes a Rheoli (gyda llwybrau arbenigol), mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn yn y diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn astudio yn llwyddiannus.
Bod yn Barod ar gyfer y Diwydiant
Profiad Byd Go Iawn
Rhowch theori ar waith ac ennill profiad gwerthfawr byd go iawn trwy fodiwl lleoliad gwaith gorfodol yn eich ail flwyddyn.
Bod yn Barod ar gyfer y Diwydiant
Cysylltiadau yn y Diwydiant
Mae ein graddau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd yn cynnig cyfleoedd i weithio ar brosiectau byw a chysylltu ag arbenigwyr y diwydiant i’ch paratoi ar gyfer llwyddiant gyrfa.
01 - 04
Achrediadau ac Aelodaethau Proffesiynol
Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn darparu addysg fusnes sy’n cael ei pharchu’n fyd-eang. Ni oedd yr ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad Siarter Busnesau Bach nodedig a label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) EFMD.
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.