Eich llwybr i fyd o gyfleoedd gyda’n graddau Digwyddiadau, Lletygarwch a Rheoli Twristiaeth sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol ym Met Caerdydd.
Fel dinas ddigwyddiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, gyda lletygarwch o’r radd flaenaf, ac atyniadau cyffrous i dwristiaid, Caerdydd yw’r gyrchfan berffaith i astudio Digwyddiadau, Lletygarwch neu Rheoli Twristiaeth. Bydd gennych gyfleoedd diddiwedd i rwydweithio ag arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant ac ennill profiad gwaith go iawn yng Nghaerdydd a thu hwnt.
01 - 04
Ein Cyfleusterau
Ystafell Lletygarwch
Mae ein hystafell lletygarwch bwrpasol yn Ysgol Reoli Caerdydd yn cynnig yr amgylchedd delfrydol i gymhwyso damcaniaeth ystafell ddosbarth mewn lleoliad ymarferol.
Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, ar leoliad gwaith, ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn astudio yn llwyddiannus.
Bod yn Barod ar gyfer y Diwydiant
Profiad Byd Go Iawn
Rhowch theori ar waith ac ennill profiad gwerthfawr yn y byd go iawn trwy fodiwl lleoliad gwaith haf dewisol yn eich ail flwyddyn.
Bod yn Barod ar gyfer y Diwydiant
Cysylltiadau yn y Diwydiant
Profwch ddysgu byd go iawn trwy brosiectau byw, teithiau maes, siaradwyr gwadd a chyfleoedd i gydweithio â’n rhwydwaith helaeth o bartneriaid diwydiant.
01 - 04
Achrediadau ac Aelodaethau Proffesiynol
Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn darparu addysg fusnes sy’n cael ei pharchu’n fyd-eang. Ni oedd yr ysgol fusnes gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad Siarter Busnesau Bach nodedig a label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) EFMD.
Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.