Skip to content

Astudio Ffasiwn ym Met Caerdydd

Gweld y Cyrsiau
Two people dressed in elaborate colourful outfits pose on a football pitch. Two people dressed in elaborate colourful outfits pose on a football pitch.
01 - 02
A person with curly hair holds up a colourful fabric in a design studio. In the background, a mannequin and framed art are visible. The room is well-lit, creating an inspiring workspace for creativity. A person with curly hair holds up a colourful fabric in a design studio. In the background, a mannequin and framed art are visible. The room is well-lit, creating an inspiring workspace for creativity.

Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig

Ffasiwn yw pwy ydym ni – mae’n arwydd o’n gwerthoedd, ein diwylliant, a’n hunaniaethau. Y diwydiant ffasiwn yw’r cyflogwr mwyaf o’r holl ddiwydiannau creadigol yn y DU, ac un o’r mwyaf ledled y byd. Bydd gradd Ffasiwn o Met Caerdydd yn eich arfogi â’r wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo yn y diwydiant deinamig hwn.

O ddylunio ac adeiladu dillad i fasnachu, marchnata, rheoli brand a rhagfynegi tueddiadau, mae ein graddau sy’n canolbwyntio ar yrfa yn cydbwyso gofynion masnachol â chreadigrwydd, moeseg a chynaliadwyedd.

01 - 04
Fashion Buying and Brand Management student at Graduate Showcase Fashion Buying and Brand Management student at Graduate Showcase

Astudio Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand

Os ydych chi’n breuddwydio am ddatblygu gyrfa mewn prynu, masnachu neu reoli brand o fewn y diwydiant ffasiwn byd-eang, gallai ein gradd Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand eich ffitio’n berffaith.

Mae’r radd hon, sydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, yn cyfuno strategaeth fusnes â chreadigrwydd, gan eich paratoi i greu casgliadau sy’n cael eu harwain gan dueddiadau, datblygu cynhyrchion sy’n adlewyrchu hunaniaeth brand, a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n dylanwadu ar yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu.

 

BA Prynu Ffasiwn a Rheoli BrandBA Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand
Fashion Design student working with clothing pattern Fashion Design student working with clothing pattern

Astudio Dylunio Ffasiwn

Mae’r radd hon, a addysgir yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, yn eich annog i archwilio’r broses ddylunio broffesiynol, gan gynnwys meysydd fel cynhyrchu dillad a dadansoddi tueddiadau.

Fel aelod proffesiynol o Gyngor Ffasiwn Prydain a’r Sefydliad Ffasiwn i Raddedigion, mae’r radd hon yn darparu mynediad at rwydweithiau diwydiant proffesiynol, cystadlaethau byw, a chyfleoedd i fod yn bresennol mewn digwyddiadau cyffrous fel Wythnos Ffasiwn Graddedigion.

 

BA Dylunio FfasiwnBA Dylunio Ffasiwn
A person sat at a desk in front of a Mac computer. A person sat at a desk in front of a Mac computer.

Astudio Rheoli Marchnata Ffasiwn

Lle mae creadigrwydd yn cwrdd â busnes. Mae ein gradd Rheoli Marchnata Ffasiwn, sydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, yn eich paratoi ar gyfer ystod o rolau arwain yn y diwydiant ffasiwn.

Darganfyddwch sut mae’r diwydiant ffasiwn yn gweithredu, ac ennill y sgiliau strategol a digidol i farchnata brandiau yn llwyddiannus. Dysgwch i lunio dyfodol ffasiwn trwy feddalwedd safonol y diwydiant a marchnata omnisianel o gyfryngau cymdeithasol i brofiadau wyneb yn wyneb.

 

BA Rheoli Marchnata FfasiwnBA Rheoli Marchnata Ffasiwn
01 - 04

Eich Dyfodol Ffasiwn ym Met Caerdydd

01 - 08
Casgliad Graddedigion Dylunio Ffasiwn 2025. O’r trac rasio i’r rhedfa, newydd gychwyn arni mae ein myfyrwyr sy’n graddio.
YouTube Thumbnail - Fashion Design Graduate Collection 2025
Rydym yn dathlu llwyddiant ein graddedigion Rheoli Ffasiwn gydag arddangosfa flynyddol i raddedigion sy’n cynnwys gwesteion o’r diwydiant ffasiwn.
YouTube Thumbnail - Fashion Management Graduate Showcase 2025
Yn Ysgol Reoli Caerdydd, mae myfyrwyr Rheoli Ffasiwn yn dysgu mewn gofod a adeiladwyd i ysbrydoli arweinwyr y diwydiant ffasiwn yn y dyfodol.
Three people sit alongside each other at a table with laptop computers.
Ewch ar daith o gwmpas y stiwdios a’r gweithdai Dylunio Ffasiwn, sydd â’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddod â’ch syniadau yn fyw.
Rows of tables in a large room, with tailor's dummies and sewing machines
Mae cwricwlwm arloesol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer pob sector. Mae eich gyrfa greadigol yn dechrau yma.
YouTube Thumbnail - Cardiff School of Art & Design

Achrediadau ac Aelodaeth Broffesiynol

Logo - British Fashion Council
CIM Accredited Degree Logo
Logo - Graduate Fashion Foundation

Sylwer: nid yw pob achrediad ac aelodaeth broffesiynol yn berthnasol i bob cwrs a restrir isod. Ewch i dudalennau cyrsiau unigol i gael rhagor o wybodaeth.

 

Enw'r Cwrs

Lefel

Lleoliad

Israddedig

Campws Llandaf

Israddedig

Campws Llandaf

Diwrnodau Agored a Theithiau Campws

Eisiau rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni?

Dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored neu archebwch Daith Campws dan arweiniad myfyrwyr.

Archebwch Eich Lle