Yr Hyn yr Ydym yn ei Gynnig
Darganfyddwch eich dyfodol mewn gofal iechyd gyda’n graddau israddedig wedi’u hachredu’n broffesiynol ar draws ystod o broffesiynau iechyd, gan gynnwys Technoleg Ddeintyddol, Podiatreg, Therapi Lleferydd ac Iaith a mwy. Wedi’ch addysgu gan academyddion profiadol, sy’n weithgar yn y diwydiant ac ym maes ymchwil, byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn cyfleusterau clinigol ac efelychu modern, gyda chefnogaeth partneriaethau cryf gyda darparwyr gofal iechyd i ddatblygu sgiliau arbenigol, sy’n canolbwyntio ar gleifion o’r cychwyn cyntaf.
Mae ein graddau, sydd wedi’u cynllunio i gefnogi’ch llwybr i ymarfer proffesiynol, yn adeiladu’r arbenigedd clinigol, y galluoedd datrys problemau, a’r hyder sy’n cael eu gwerthfawrogi ar draws y sector iechyd. Gyda ffocws cryf ar gyflogadwyedd a gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, byddwch yn graddio’n barod ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil sy’n gwella iechyd, lles ac ansawdd bywyd cleifion.