Llawlyfr Academaidd
Mae Llawlyfr Academaidd Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi'i rannu'n ddwy adran:
- Mae Cyfrol Un, sy'n cynnwys rheoliadau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol, yn cael ei weinyddu gan Gwasanaethau'r Gofrestrfa.
- Mae Cyfrol Dau, sy'n cynnwys gweithdrefnau a chanllawiau ansawdd y Brifysgol, yn cael ei weinyddu gan y Gyfarwyddiaeth Gwella Ansawdd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni qed@cardiffmet.ac.uk.
Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd Met Caerdydd wedi'u datblygu i hyrwyddo cysondeb o ran dulliau o gyflwyno ac asesu academaidd, a thegwch o driniaeth i fyfyrwyr y Brifysgol. Fel rhan o'r broses Gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn Telerau ac Amodau'r Brifysgol sy'n cynnwys y rheoliadau a'r gweithdrefnau yn y Llawlyfr Academaidd.
Mae'r dogfennau yn y Llawlyfr Academaidd yn cael eu cadw yn unol â fframweithiau arfer gorau y sector ac yn cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd lle bo angen. Dim ond yn ystod y flwyddyn academaidd y byddai unrhyw newidiadau i Gyfrol Un o'r Llawlyfr Academaidd fel arfer yn cael eu gwneud er mwyn rhoi eglurhad. Cyhoeddir rhestr gyfoes o newidiadau yn ystod y flwyddyn isod:
- Llawlyfr Academaidd - Diweddariadau ar gyfer mis Medi 2026
- Llawlyfr Academaidd - Diweddariadau Cyfrol 1 yn ystod 2026/27
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r Llawlyfr Academaidd, cysylltwch â Gwasanaethau’r Gofrestrfa ar regulations@cardiffmet.ac.uk.
Sylwer: Mae fformat a strwythur y Llawlyfr Academaidd yn cael ei adolygu ac mae rhai dogfennau eisoes wedi'u dileu er mwyn symleiddio'r cynnwys ac osgoi unrhyw ddyblygu. Hyd yn hyn, rydym wedi ymatal rhag ail-rifo adrannau er mwyn cadw dolenni URL a allai fod wedi'u storio'n lleol, a dyna pam bod amrywiad yn y ffordd y mae rhai dogfennau wedi’u rhifo.
Gweler yma’r Llawlyfr Academaidd - Cynnwys Cyfrol 1 2026-2027
Cyfrol 1: Rheoliadau a Gweithdrefnau
- Adran 2 - Derbyn o Fyfyrwyr (Rhaglenni Addysgir)
- Adran 4 - Asesiad o Fyfyrwyr (Rhaglenni Addysgir)
- Adran 5 - Amgylchiadau Lliniarol ac Achosion Arbennig
- Adran 7 - Apeliadau a Chwynion
- Adran 8 - Camymddwyn Academaidd
- Adran 9 - Gweithdrefnau Eraill
- Adran 11 - Rheoliadau a Gweithdrefnau Graddau Ymchwil
- Adran 12 - Rheoliadau Eraill
- Adran 14 - Gwobrau Prifysgol Metropolitan Caerdydd