Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Cwrs Blas ar Ddysgu mewn Cynradd ac Uwchradd

Ydych chi wedi meddwl dilyn gyrfa mewn dysgu?

Cwrs wythnos bydd yn rhoi rhagflas arbennig o yrfa mewn addysgu Ysgol Uwchradd Gymraeg neu Ysgol Gynradd Gymraeg.

Bydd y cwrs yn cynnig profiadau gwerthfawr anffurfiol (di-asesiad) lle byddwch yn cael y cyfle i brofi amgylchedd ysgol ac i archwilio gyrfa yn y proffesiwn cyffrous a phwysig yma ar ôl graddio.

Dyddiadau’r Cwrs

  • Cwrs 1: Tachwedd/Rhagfyr 2026 – dyddiau i’w drefnu o gwmpas eich amserlen chi
  • Cwrs 2: Pythefnos cyntaf mis Mehefin 2027

Bydd y cwrs yn cynnwys dau ddiwrnod yn y Brifysgol a thridiau allan mewn naill ai ysgol gynradd neu uwchradd. Bydd y sesiwn cyntaf yn y Brifysgol ar gampws Cyncoed ar y dydd Llun yn cynnwys hyfforddiant mewn sawl agwedd gan gynnwys Diogelu Plant, Gofynion Proffesiynol addysgu a chyflwyniad i Gwricwlwm Cymru 2022.

Ar y dydd Mawrth, Mercher ac Iau, byddwch allan yn yr ysgol, yn cael amryw o brofiadau gan gynnwys cysgodi a chefnogi athrawon o fewn eich maes o ddiddordeb. Bydd diwrnod olaf nol yn y Brifysgol yn gyfle i chi drafod eich profiadau diweddar yn eich ysgolion a rhannu syniadau.

Byddwn yn cynnig gweithdy ymarferol yn cynnig arweiniad am ymgeisio am le ar y cwrs TAR yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, esbonio disgwyliadau cyfweld a chynnig cefnogaeth un i un. Cyfle gwych felly i baratoi eich ffurflen UCAS a manteisio ar brofiad tiwtoriaid TAR Addysg sydd yn rhan o’r system cyfweld.

Dyma gyfle arbennig i chi gael profiad ymarferol o addysgu mewn sector sydd yn chwilio am athrawon y dyfodol. Bydd hyn yn brofiad defnyddiol wrth feddwl ymlaen am yrfa yn y byd addysg, a bydd profiad felly’n cryfhau unrhyw gais am le yn y cwrs TAR cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bydd disgwyl i chi fod yn siaradwr Cymraeg, a bydd y cwrs Blasu a’r profiadau ysgol trwy’r Gymraeg. Os ydych yn ansicr o lefel eich Cymraeg, bydd modd trafod hyn gyda’r tiwtoriaid cwrs cyn cadarnhau eich diddordeb.

Nod y cwrs hwn yw cynnig y cyfle i siaradwyr o wahanol gefndiroedd i weld a phrofi manteision dilyn gyfra athro trwy’r Gymraeg. Felly – peidiwch â gadael i sgiliau Cymraeg ansicr eich rhwystro – bydd y staff yn y Brifysgol a’r ysgolion yn barod iawn i’ch helpu a chodi eich hyder!

Pwysig:

Bydd angen trefnu DBS cyn ymuno â’r cwrs a mynychu’r ysgol. Chi fydd yn gyfrifol am drefnu hyn, a bydd Derbyniadau yn gallu helpu gyda’r system DBA.

Llenwch eich gwybodaeth yn y ffurflen isod:

Ffurflen Gais – Blas ar Ddysgu

Danfonwch y ffurflen hon at:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cwrs, cysylltwch â Rhian Crooks-Williams (RECrooks-Williams@cardiffmet.ac.uk).

Gwybodaeth Cwrs Allweddol

  • Lleoliad Astudio: Campws Cyncoed
  • Ysgol: Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
  • Hyd y Cwrs: 1 wythnos