Skip to content

Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r radd hon sydd wedi’i hachredu yn broffesiynol yn cwmpasu’r technegau a ddefnyddir i greu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys y theori a’r ymarfer perthnasol o gyfrifiadureg a pheirianneg meddalwedd. Byddwch chi’n datblygu dealltwriaeth o sut mae gemau yn cael eu dylunio a’u datblygu, yn ogystal â’r wybodaeth a’r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cymryd ymlaen yn eich gyrfa wrth i dechnoleg gemau ddatblygu.

O’r diwrnod cyntaf, byddwch chi’n gweithio gydag offer a thechnolegau sy’n safonol i’r diwydiant, gan gynnwys pecynnau datblygu consol, offer realiti rhithwir gan Meta a Valve, a’n bythau datblygu realiti rhithwir arbenigol, gan ddarparu profiad dysgu ymdrochol, ymarferol.

Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n datblygu amrywiaeth eang o sgiliau trwy weithio ar brosiectau gemau lluosog ar draws gwahanol lwyfannau caledwedd. Byddwch chi’n dysgu sut mae gemau yn cael eu dylunio a’u gweithredu, sut mae peiriannau a mecaneg gemau yn gweithio, ac yn archwilio meysydd fel datblygu deallusrwydd artiffisial, symudol, ac aml-chwaraewr.

Byddwch chi hefyd yn meistroli rhaglennu cyfrifiadurol yn bennaf gan ddefnyddio C++, gan roi’r sylfaen dechnegol i chi ddeall sut mae gemau yn gweithredu yn eu hanfod a’r hyblygrwydd i ddod â’ch syniadau eich hun yn fyw.

Gan fod cynnwys y cwrs yn cael ei werthuso’n barhaus i sicrhau bod gennych y sgiliau diweddaraf a mwyaf dymunol sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant, nid yw’n syndod bod ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau rolau o fewn sefydliadau hapchwarae adnabyddus fel Ubisoft, Cloud Imperium, Kwalee, PlayEmber, Lively, Sumo Digital, Rocket Science a llawer mwy.

 

Wedi’i hachredu gan

The Independent Game Developers' Association TIGA Logo
01 - 04

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Gradd

Yn ystod y cwrs gradd fe gewch y cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth ac i ddysgu ystod eang o sgiliau. Bydd hyn yn cynnwys sut caiff gemau eu dylunio a’u gweithredu, sut bydd peiriannau gemau yn gweithio, mecaneg gemau, deallusrwydd artiffisial, a datblygu gemau symudol ac aml-chwaraewyr. Byddwch hefyd yn dysgu nifer o ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys C++. Bydd hyn yn eich galluogi i ddeall sut bydd elfennau mewnol gemau yn gweithio ac yn rhoi’r hyblygrwydd i chi fel y gallwch wireddu eich syniadau dylunio gemau chi eich hunan. Bydd systemau gemau heddiw, o ffonau symudol hyd gonsolau, yn defnyddio cerdyn graffeg (Uned Prosesu Graffeg neu GPU) i greu’r effeithiau a welwch ar y sgrin. Bydd rhaglennu’r GPU yn bwysig yn natblygiad gemau modern a bydd hyn yn ffurfio rhan hanfodol o raglen datblygu gemau ym Met Caerdydd.

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol gydag ystod o opsiynau yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf i gael datblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Bydd myfyrwyr yn gallu dewis cwblhau lleoliad blwyddyn mewn diwydiant rhwng Blynyddoedd 2 a 3.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1:

  • Systemau Gweithredu a Saernïaeth
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Cyflwyniad i Ymarfer yn y Diwydiant Gemau
  • Sylfeini Systemau Gemau
  • Mathemateg Gymhwysol ar gyfer Datblygu Gemau
  • Explore

Blwyddyn 2:

Modiwlau gorfodol:

  • Datblygu Peiriannau Gemau
  • Dylunio a Gweithredu Mecaneg Gemau
  • Graffigwaith Cyfrifiadurol Amser Real
  • Dylunio Lefelau a Chreu Asedau Gemau
  • Expand

Modiwlau dewisol:

  • Rhwydweithiau a Diogelwch
  • Datblygu Offeryn Gemau
  • Llywio’r Bydoedd Rhithwir

Blwyddyn 3:

Modiwlau gorfodol:

  • Mecaneg Uwch
  • Creu Bydoedd Rhithwir
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)
  • Datblygu Gemau Aml-lwyfan

Modiwlau dewisol (dau o’r canlynol):

  • Datblygu Gemau Symudol
  • Profiad Gwaith Diwydiannol
  • Gemau Rhwydwaith Amlchwaraewyr
  • Rendro Uwch

Noder: Bydd modiwlau opsiynol yn dibynnu ar eu hargaeledd ac ar y galw amdanynt; felly mae’n bosib na fydd pob un o’r modiwlau hyn yn rhedeg mewn un Flwyddyn Academaidd.

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Gall y myfyrwyr fynd i’r Gweithdy Datblygu Gemau hefyd – lle i gwrdd yn wythnosol ble y gallwch drafod eich gêm neu eich syniadau chi eich hunan y byddwch am eu datblygu ar wahân i’r gemau a fydd yn cael eu creu yn rhan o’r cwrs. Gallwch gael adborth defnyddiol oddi wrth eich cyd-fyfyrwyr yn ogystal â chymorth ychwanegol i weithredu’ch syniadau. Mae’n gyfle hefyd i ddangos eich gemau ac i ddatblygu portffolio i ddangos i gyflogwyr posib.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Nod pennaf rhaglen y radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol dylunio a datblygu gemau cyfrifiadur. Bydd yn dangos effaith a phwysigrwydd ehangach technoleg a meddalwedd gemau i gymdeithas yn ogystal ag i’r economi ddigidol yn y DU ac yn fyd-eang. Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol, sgiliau dadansoddi a datrys problemau, sef sgiliau trosglwyddadwy iawn, ynghyd ag ystod eang o sgiliau datblygu meddalwedd.

Bydd amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol ar gael i raddedigion yn y sector gemau cyfrifiadur ac yn y diwydiannau adloniant a chyfryngau ehangach hefyd. Bydd rolau mwy cyffredinol ar gael yn y rhan fwyaf o’r sectorau diwydiannol eraill (rhai cyhoeddus a rhai preifat), gan gynnwys gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, gweithgynhyrchu uwch, peirianneg ac ymgynghoriaeth rheoli. Cafodd graddedigion y cwrs eu cyflogi yn y sector gemau, er enghraifft Cloud Imperium ac Ubisoft, ac mewn sectorau eraill, er enghraifft DTM Global a CGI.

Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy leoliadau blwyddyn rhyngosod ac interniaethau diwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr cyfrifiadura/TG i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, IBM, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 112-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Paul Angel:

  • Cod UCAS

    433Y (gradd 3 blynedd), 433F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Dechnolegau Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
    5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Computer desks in front of projector in office room. Computer desks in front of projector in office room.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Labordy Gemau

Mae ein Labordy Gemau’n cefnogi cipio symudiadau, Realiti Rhithwir/Realiti Estynedig, a phecynnau datblygu ffonau symudol a chonsol.

Inside the entrance of Cardiff School of Technologies. Inside the entrance of Cardiff School of Technologies.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Wedi’i dylunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg, mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnig cyfleusterau modern sy’n cynnwys ystod o labordai ac offer o safon diwydiant sy’n cyfoethogi eich dysgu ymarferol.

Mae ein mannau cymdeithasol ac astudio unigryw yn darparu’r gofod perffaith i weithio, ymlacio a chysylltu, gan ganiatáu i fyfyrwyr ryngweithio ac adeiladu cymuned gryf.

01 - 04
YouTube Thumbnail - Global Game Jam YouTube Thumbnail - Global Game Jam

Jam Gêm Byd-eang

Darganfyddwch gyfleoedd datblygu gemau cyffrous fel Jam Gêm Byd-eang ym Met Caerdydd.

01 - 04
Four students sit on a curved green sofa. One is holding a gaming controller and they are all looking in the same direction

Mae ein myfyrwyr wedi dechrau amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw. O ddringo creigiau i gemau, Fformiwla 1 a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!

Five young adults in matching yellow t-shirts stand in a line

Mae ein rhwydwaith o Hyfforddwyr Myfyrwyr yn dod yn fentoriaid i chi a byddant yn eich cefnogi drwy eich taith yn yr Ysgol Dechnolegau.