Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen Meistr mewn Celfyddyd Gain (MFA) yn darparu ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno datblygu eu hymarfer neu eu gwybodaeth broffesiynol o fewn disgyblaeth Celfyddyd Gain. Fel arfer, gallai hyn gynnwys athrawon, artistiaid sy'n ymarfer, gweithwyr cymunedol, gweinyddwyr y celfyddydau, neu raddedigion diweddar mewn Celfyddyd Gain sy'n dymuno hyrwyddo eu hymarfer proffesiynol.
Bwriad yr MFA yw ymateb i fyfyrwyr sy'n ymarfer eisoes ac sy'n gallu dweud yn hawdd ble maent mewn perthynas â maes a'i hanes o ymarfer a ffyrdd o weithio. Rôl yr MFA yw gweithio tuag allan, fel petai, tuag at gyd-destun ar gyfer ymarfer y myfyrwyr.
Bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu Ymarfer Celf sy'n berthnasol i'r Pynciau Ysgol Celf a Dylunio canlynol: Celfyddyd Gain; Tecstilau; Cerameg; Gwneuthurwr Dylunydd Artist; a Darlunio.
Mae'r cwricwlwm MFA wedi'i gynllunio fel bod myfyrwyr ym maes Celfyddyd Gain yn:
- Cychwyn gyrfa neu ddatblygu syniad
- Datblygu sgiliau proffesiynol
- Dod yn abl, yn broffesiynol ac yn gyfeiriedig
- Cael llwybr tuag at ddilyniant i Ddoethuriaeth Broffesiynol yn y dyfodol
Caiff y cwrs dysgu hwn ei lywio gan brosiect hunan-ddiffiniedig y myfyriwr. I gefnogi hyn, dyrennir Tiwtor Personol i bob myfyriwr ac aelod ychwanegol o staff yr Ysgol sy'n arbenigwr ar y pwnc. Gyda'i gilydd nhw yw'r Tîm Goruchwylio.
Mae natur y ddisgyblaeth yn golygu bod y cwrs yn dibynnu ar ymarferwyr medrus fel hwyluswyr dysgu allweddol, ac, i adlewyrchu hyn, defnyddir amrywiaeth o fecanweithiau cyflwyno. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonynt ffocws cyffredin gan y byddant yn ceisio datblygu sgiliau myfyrwyr fel dysgwyr annibynnol rhagweithiol a myfyriol.
Fel rhan o'r rhaglen bydd myfyrwyr yn astudio'r modiwlau canlynol:
Semester 1
Yn Semester 1 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyfochrog integredig: Lleoli a Methodolegau.
Mae'r modiwl Lleoli wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer y rhaglen, gyda'r nod o feithrin eich gallu i leoli eich syniadau o fewn fframwaith beirniadol sy'n amlygu materion sy'n codi ym maes Celfyddyd Gain gyfoes a thu hwnt wrth hyrwyddo eich ysgolheictod yn eich dewis faes ymchwil i lywio cynnig ymchwil a menter.
- ART7779 Lleoli (40 credyd)
- ART7771 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 1 (20 credyd)
Semester 2
Yn Semester 2 byddwch yn cyflawni dau fodiwl cyffredin cyfochrog integredig: Syniad a Chyd-destunau.
Nod y modiwlau hyn yw cefnogi ysgolheictod uwch parhaus i roi cyd-destun a gweithredu'r cynnig ymchwil a ddatblygwyd gennych yn Semester 1 yn ymwneud â phryderon byd-eang, moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol.
- ART7773 Syniad (40 credyd)
- ART7772 Cyd-destun a Methodolegau Rhan 2 (20 credyd)
Semester 3
Yn Semester 3 byddwch yn cyflawni un modiwl: Allbwn. Mae'r modiwl yn cynnwys dau weithgaredd integredig sy'n cyfateb i 60 credyd.
Mae'r modiwl Allbwn yn cydgrynhoi canfyddiadau'r ymchwil drwy wireddu eich prosiect mawr i ffurfio arddangosfa wedi'i churadu (Mehefin/Gorffennaf) a phapur neu erthygl ysgrifenedig. (Mis Medi).
Bydd yr arddangosfa MFA yn arddangos eich gwaith ymarferol gan gyfnerthu eich gweledigaeth greadigol unigryw.
- ART7774 Allbwn (60 credyd)
Pwyntiau gadael
- Ar ôl cwblhau cyfanswm o 60 credyd, gellir dyfarnu Tystysgrif Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
- Ar ôl cwblhau cyfanswm o 120 credyd, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig i fyfyrwyr.
- Ar ôl cwblhau cyfanswm o 180 credyd, dyfernir Gradd Meistr i fyfyrwyr.
Bydd y dulliau cyflwyno yn cynnwys aseiniadau stiwdio, darlithoedd, tiwtorialau, seminarau, gweithdai, cyflwyniadau a thrafodaeth dan arweiniad myfyrwyr, briffiau arbrofol a byw, teithiau astudio, a dadansoddiad myfyriol.
Mae pob prosiect yn dechrau gyda sesiwn friffio fyw, a dogfen friffio sydd ar gael drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir (VLE), Moodle.
CDP (Cynllun Datblygu Personol): Byddwch yn cadw dyddiaduron myfyriol a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r cyrff o waith a asesir; bydd tiwtorialau academaidd a'r tiwtorialau bugeiliol bob tymor yn monitro ac yn ymateb i bryderon sy'n codi ar draws eich profiad dysgu a byddant yn canolbwyntio ar eich helpu i fireinio eich amcanion datblygu personol cyffredinol a'ch arddull ddysgu.
Darlithoedd: Mae darlithoedd yn cyflwyno rhaglen astudio gydlynol ac ysbrydoliaeth gyffredinol. Cânt eu cefnogi gan ddeunydd gweledol a/neu destunau. Gall y cynnwys fod yn hanesyddol, yn ddamcaniaethol, yn gyd-destunol neu'n ymarferol. Lle bo'n briodol, caiff darlithoedd eu strwythuro i'ch cynnwys mewn trafodaeth.
Tiwtorialau: Cyfarfodydd myfyrwyr neu grwpiau o fyfyrwyr gyda darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
- Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion mewn gwybodaeth gefndir.
Seminarau: Amcan seminarau yw annog cyflwyno eglur a dadansoddol a, thrwy drafodaethau grŵp, datblygu dealltwriaeth o'r pwnc a'i gyd-destun. Mae hwn yn ddull addysgu a dysgu canolog, yn enwedig wrth gysylltu'r hyn a ddysgir â'ch ymchwil bersonol ac yn ôl i bwnc Cerameg a Gwneud.
Gall seminarau fod ar dair ffurf:
- Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.
- Rhai sy'n cael eu harwain gan staff lle darperir testunau neu arteffactau i chi gyflwyno dadansoddiad i'ch grŵp.
- Rhai lle byddwch chi'n cyflwyno eich gwaith neu'ch canfyddiadau ymchwil eich hun.
Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Mae seminarau'n cynnig profiad gwerthfawr i chi mewn sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai ymarferol: Mae gweithdai ymarferol yn eich galluogi i ymarfer a mireinio eich sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle cewch adborth gan aelodau staff. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Sesiynau stiwdio ymarferol: Mae sesiynau stiwdio ymarferol, sy'n pwysleisio cymhwyso egwyddorion sylfaenol Cerameg a Gwneud, yn canolbwyntio ar ddatrys problemau a datblygu atebion creadigol a thechnolegol i broblemau dylunio. Mae ymarferion efelychu a phrosiectau byw'n cynnig her ysgogol i chi weithio'n annibynnol ac mewn grwpiau i brofi heriau busnes go iawn.
Fe'ch anogir i fynegi eich cynigion mewn modd gwrthrychol a beirniadol ac i ddatblygu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol sy'n hanfodol i entrepreneur neu arloeswr.
E-ddysgu: Defnyddir yr amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) yn helaeth ar y rhaglen i wella profiad dysgu'r myfyrwyr. Ar wahân i'w ddefnydd eang fel ystorfa ar gyfer deunydd dysgu ac adnoddau, defnyddir y VLE i'ch cynnwys yn eich dysgu eich hun. Mae'n werthfawr hefyd fel ffordd o gyfathrebu, cynnig adborth a deunyddiau dysgu ychwanegol. Rhoddir adborth electronig drwy'r amgylchedd dysgu rhithwir.
Trafodaeth Feirniadol: Mae trafodaethau sy'n cynnwys staff a myfyrwyr yn nodwedd ganolog o'r drafodaeth feirniadol mewn aseiniadau a gwaith prosiect a drefnir fel rhan o raglen y stiwdio. Cynhelir trafodaethau beirniadol ym mhob cam asesu (interim neu derfynol) o aseiniad neu brosiect yn y modiwlau stiwdio lle byddwch yn cyflwyno eich gwaith i'ch grŵp blwyddyn a'ch tiwtor i gael adborth a thrafodaeth. Mae'r digwyddiad hwn yn gonglfaen yn y broses ddysgu. Caiff aseiniadau eu cynllunio i sicrhau eich bod yn mynd i'r afael ag amrywiaeth eang o astudiaethau achos neu gynsail sy'n dangos amrywiaeth o sefyllfaoedd neu atebion. Mae'r broses o drafodaeth feirniadol yn sicrhau eich bod yn dysgu o waith sy'n cael ei wneud gan eraill yn ogystal â thrwy eich ymdrechion eich hun.
Asesir y deilliannau dysgu yn y modiwlau drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau a gwaith prosiect ac ati, fel y gwelir yn nisgrifiadau modiwlau unigol.
Mae asesu'n digwydd ar adegau strategol yn y flwyddyn academaidd i alluogi a chefnogi eich datblygiad parhaus. Mae trafodaeth feirniadol a thiwtorialau grŵp yn cynnig cyfleoedd adborth parhaus. Defnyddir asesu gan gyfoedion a hunanasesu'n helaeth.
Mae'r rhaglen MA Celfyddyd Gain yn galluogi myfyrwyr i wella eu gyrfaoedd fel artistiaid sefydledig, neu i ddod yn artistiaid sefydledig , gan arwain at yrfa, PhD, neu Ddoethuriaeth Broffesiynol. Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn cynnig rhaglenni Doethurol Proffesiynol mewn Celf a Dylunio.
Mae ein Gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain wedi'i chynllunio i alluogi myfyrwyr i gyflawni priodoleddau megis mwy o hyblygrwydd, y gallu i addasu, a chyfrifoldeb ac ymreolaeth unigol fel dylunwyr neu ymchwilwyr proffesiynol. Nod y cwrs yw datblygu unigoliaeth, creadigrwydd, hunanddibyniaeth, menter, a'r gallu i gyflawni mewn amgylcheddau sy'n newid yn gyflym yn ogystal â chynyddu cymhwysedd gyda sgiliau a dulliau ymchwil a fydd yn gwneud graddedigion yn gyflogadwy iawn fel academyddion a/neu ymchwilwyr, neu'n eu galluogi i ddatblygu ymarfer gweithredol a pharhaus fel dylunwyr.
Mae'r MFA yn galluogi graddedigion, ymarferwyr canol gyrfa a phroffesiynol o fewn a'r tu allan i ddisgyblaeth Celfyddyd Gain i drafod ac archwilio strategaethau ymarfer tra'n gallu creu eu hybridiau eu hunain o arferion seiliedig ar ddeunyddiau a damcaniaethol a all wella'r ddisgyblaeth ymhellach.
Mae pob myfyriwr yn derbyn tiwtorialau Portffolio Datblygiad Personol (PDP) unigol i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gadw dyddiaduron dysgu sy'n dangos tystiolaeth o ddogfennaeth weledol barhaus sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.
Ar ddiwedd y rhaglen, mae canran uchel iawn o raddedigion MFA yn sefydlu neu'n parhau â'u hymarfer proffesiynol, a alluogir gan y cysylltiadau y maent wedi'u gwneud â stiwdios neu sefydliadau dylunio sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau gweledol a dylunio. Mae rhai'n dewis parhau â'u hastudiaethau Celfyddyd Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd drwy gyflawni PhD.
Fel arfer, byddwch wedi ennill dosbarthiad gradd 1af neu 2.1 mewn pwnc celfyddydol priodol, a/neu bydd gennych brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth celfyddydau gweledol neu ddiwydiannau creadigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar ein gwefan.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i'r brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Caiff pob myfyriwr ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Os nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, defnyddir Skype i'w gynnal.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol am gyrsiau Ôl-raddedig CSAD, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniaday, Amelia Huw-Morgan ar ahuwmorgan@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs, cysylltwch â'r Tiwtor Derbyniadau, yr Athro Andre Stitt astitt@cardiffmet.ac.uk.
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser.
2 flynedd yn rhan-amser.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.