Skip to content

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol - Graddau Meistr

Gwnewch Gais Nawr

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Yma ym Met Caerdydd, mae ein graddau ôl-raddedig sydd a gogwydd proffesiynol iddynt mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol wedi’u cynllunio ar gyfer ymarferwyr angerddol sydd am gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. P’un a ydych eisoes yn gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau, neu os ydych yn fyfyriwr graddedig sydd â chymhwyster wedi’i gymeradwyo gan JNC a gydnabyddir yn genedlaethol, mae ein cyrsiau’n cynnig llwybr effeithiol at gydnabyddiaeth ac arweinyddiaeth broffesiynol o fewn y sector.

  • MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (llwybr cymhwyso)
  • Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (dyfarniad ymadael proffesiynol wedi ei ardystio gan JNC o’r MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol)
  • MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Gwaith Ieuenctid (dyfarniad ymadael o’r MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch)

Mae’r cyrsiau ôl-raddedig hyn yn meithrin ymarfer beirniadol, myfyriol a damcaniaethol ar gyfer gwaith effeithiol ar draws lleoliadau amrywiol, gan gynnwys cyd-destunau cymunedol ac ysgolion, cyfiawnder ieuenctid, gofal iechyd, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, celfyddydau ieuenctid, digartrefedd, camfanteisio, ac amgylcheddau digidol.

Sgyrsiau Cwrs Ar-lein

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am ein graddau meistr mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, ymunwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen ar:

  • 20 Mai, 4-5yp – cliciwch yma i ymuno
  • 18 Mehefin, 4-5yp – cliciwch yma i ymuno
  • 14 Gorffennaf, 4-5yp – cliciwch yma i ymuno
  • 12 Awst, 4-5yp – cliciwch yma i ymuno

ETS Cymru

Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru yw’r Corff Statudol neu Reoleiddio Proffesiynol (PSRB) ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae ETS Cymru yn cynnal cymeradwyaeth broffesiynol sy’n sicrhau ansawdd hyfforddiant Gwaith Ieuenctid ar ran y Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Cymru a Lloegr.

Fforwm ETS ar y Cyd

Mae JETS wedi datblygu protocol cyd-gydnabyddiaeth sy’n sicrhau y bydd eich cymhwyster cymeradwy yn cael ei gydnabod yn awtomatig ledled y DU ac Iwerddon.

 

Cymeradwywyd gan

ETS Wales Logo
01 - 04

Mae ein MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn cynnig llwybr deuol gwerthfawr: byddwch yn graddio gyda gradd meistr academaidd lawn a Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol sydd wedi’i gymeradwyo’n broffesiynol. Mae’r rhaglen yn berffaith ar gyfer graddedigion sydd eisoes yn gweithio (neu’n symud i weithio) gyda phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ac sydd am ennill cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig ochr yn ochr ag astudiaeth academaidd uwch.

Wedi’i gynllunio i bontio theori ac ymarfer, mae’r cwrs yn cyfuno addysgu ysbrydoledig â phrofiad byd go iawn. Ochr yn ochr â’ch astudiaethau byddwch yn cwblhau dau leoliad gwaith ieuenctid a chymunedol dan oruchwyliaeth broffesiynol, sy’n eich galluogi i fagu hyder, cymhwysedd a hygrededd yn y maes. Gellir astudio’r rhaglen yn llawn amser neu’n rhan- amser, sy’n cynnig hyblygrwydd o amgylch eich bywyd gwaith (y gellid ei ddefnyddio fel eich lleoliad) ac ymrwymiadau eraill.

Mae myfyrwyr yn disgrifio’r cwrs yn gyson fel un heriol, cefnogol a chydweithredol. Byddwch yn dysgu ochr yn ochr â charfan ymroddedig o weithwyr proffesiynol, gan ddatblygu rhwydweithiau cryf sy’n aml yn para ymhell y tu hwnt i’r brifysgol.

Wedi’i gymeradwyo gan Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru Wales, mae’r MA yn darparu llwybr clir i rolau gwaith ieuenctid a chymunedol a gydnabyddir yn broffesiynol. Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn meddu ar wybodaeth uwch a sgiliau ymarferol, yn ogystal â statws proffesiynol sydd ei angen i symud ymlaen yn y sector hwn.

Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar modiwl a addysgir (un dewisol), ochr yn ochr â dau fodiwl sy’n canolbwyntio ar leoliad ar yr un pryd â’ch gwaith maes. Mae pob modiwl a addysgir yn cynnwys 20 credyd Lefel 7. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir 60 credyd, gan eich galluogi i archwilio’n fanwl pwnc rydych chi’n angerddol amdano o fewn gwaith ieuenctid a chymunedol.

Mae ein llwybr Mynediad Eithriadol yn cynnig MA i ymarferwyr profiadol heb radd israddedig, gallwch ennill gradd meistr a chymhwyster proffesiynol y sector, gan eich galluogi i gymhwyso yn broffesiynol ac yn academaidd – amser llawn mewn blwyddyn neu ran-amser dros ddwy flynedd.

Modiwlau

Modiwlau a Addysgir (Gorfodol)

  • Datblygiad a Dysgu Pobl Ifanc
  • Ymarfer Amlasiantaeth
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol

Modiwlau Gwaith Maes (Gorfodol)

  • Egwyddorion Athroniaeth a Pholisi Gwaith Ieuenctid
  • Ymarfer Myfyriol Beirniadol Uwch mewn Gwaith Ieuenctid

Modiwlau Dewisol

  • Pobl Ifanc a’r Rhyngrwyd: Gwybodaeth, Cyfathrebu a Hunaniaeth
  • Mentora a Hyfforddi: Egwyddorion a Pholisi ar Waith
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
  • Diwylliant ac Isddiwylliant Ieuenctid: Safleoedd ar gyfer Gwaith Ieuenctid Radical

Traethawd Hir – Gorfodol

Mae’r Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn bwynt ymadael o’r MA llawn mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol i fyfyrwyr sydd ond yn dymuno sicrhau eu cymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. Fel gyda’r MA llawn, mae’n arbennig o addas i raddedigion sy’n gweithio ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol ac sy’n dymuno ennill cymhwyster proffesiynol yn y maes.

Mae elfen diploma ôl-raddedig y rhaglen MA yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â dau leoliad ar wahân a oruchwylir yn broffesiynol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol ac mae’n bosibl astudio’r rhaglen naill ai’n rhan-amser neu’n llawn amser, gan fynychu’r brifysgol i ymgymryd â’r modiwlau a addysgir a thiwtorialau ymarfer dan arweiniad.

Mae myfyrwyr ar y rhaglen hon yn tueddu i ddatblygu’n grŵp cefnogol, cyfeillgar a phroffesiynol iawn. Mae’r cwrs yn cael ei gymeradwyo gan Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru Wales ar gyfer gwaith ieuenctid a bydd yn eich galluogi i sicrhau rôl gwaith ieuenctid a chymunedol broffesiynol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol.

Mae’r Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol fel pwynt ymadael o’r MA llawn mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn cynnwys pob modiwl astudio ar yr MA llawn ac eithrio’r modiwl traethawd hir gwerth 60 credyd.

Modiwlau

Modiwlau a Addysgir (Gorfodol)

  • Datblygiad a Dysgu Pobl Ifanc
  • Ymarfer Amlasiantaeth
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol

Modiwlau Gwaith Maes (Gorfodol)

  • Egwyddorion Athroniaeth a Pholisi Gwaith Ieuenctid
  • Ymarfer Myfyriol Beirniadol Uwch mewn Gwaith Ieuenctid

Modiwlau Dewisol

  • Pobl Ifanc a’r Rhyngrwyd: Gwybodaeth, Cyfathrebu a Hunaniaeth
  • Mentora a Hyfforddi: Egwyddorion a Pholisi ar Waith
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant
  • Diwylliant ac Isddiwylliant Ieuenctid: Safleoedd ar gyfer Gwaith Ieuenctid Radical

Mae’r MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n barod i ddyfnhau eu heffaith a chymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. Mae’n arbennig o addas i raddedigion mewn gwaith ieuenctid a chymunedol sydd eisoes â chymhwyster proffesiynol wedi’i gymeradwyo gan JNC, yn ogystal ag ymarferwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig sydd am ymgysylltu â gwaith ieuenctid a chymunedol ar lefel uwch, strategol fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae’r cwrs hwn yn ymateb yn uniongyrchol i realiti ymarfer cyfoes. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth feirniadol, yr hyder a’r sgiliau arwain sydd eu hangen i lywio’r heriau cymhleth – a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg – sy’n wynebu gwaith gyda phobl ifanc a chymunedau heddiw. Gyda ffocws cryf ar ymarfer myfyriol, sy’n cael ei yrru gan werthoedd, mae’r rhaglen yn cefnogi dilyniant i rolau uwch, rheolaethol a datblygiadol ar draws y sector.

Cyflwynir addysgu drwy chwe modiwl Lefel 7, gan gyfuno dysgu craidd â dewis a hyblygrwydd. Mae pedwar modiwl gorfodol yn cael eu hategu gan ddau fodiwl dewisol, sy’n cyfuno ar y campws ac addysgu ar-lein ac yn rhedeg dros semester. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir 60 credyd cyffrous, gan roi cyfle i chi archwilio’n fanwl faes o ymarfer ieuenctid a chymunedol sy’n bwysicaf i chi, eich sefydliad neu’ch cymuned.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn graddio fel gweithiwr proffesiynol hyderus, gwybodus yn feirniadol – sydd wedi’i gyfarparu i arwain, dylanwadu ar a siapio dyfodol gwaith ieuenctid a chymunedol.

Modiwlau

Gorfodol

  • Datblygiad a Dysgu Pobl Ifanc
  • Pobl Ifanc a’r Rhyngrwyd: Gwybodaeth, Cyfathrebu a Hunaniaeth
  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Amlasiantaeth

Dewisol

  • Mentora a Hyfforddi: Egwyddorion a Pholisi ar Waith
  • Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth mewn Plant a Phobl Ifanc
  • Diwylliant ac Isddiwylliant Ieuenctid: Safleoedd ar gyfer Gwaith Ieuenctid Radical
  • Datblygu Gallu Arweinyddiaeth a Rheoli drwy Ymholiad (achrededig gan ILM)

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheoli yn bwynt ymadael o’r MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch a bydd angen cwblhau’r ddau fodiwl gorfodol yn llwyddiannus; Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol a Datblygu Gallu Arweinyddiaeth a Rheoli drwy Ymholiad (achrededig gan ILM) a modiwl dewisol; Mentora a Hyfforddi: Egwyddorion a Pholisi ar Waith neu Ymarfer Amlasiantaeth.

Mae’r cwrs yn cynnwys 3 modiwl astudio; mae dau ohonynt yn orfodol ac yn ddewis o un modiwl dewisol.

Modiwlau

Gorfodol

  • Arwain a Rheoli Ymarfer Proffesiynol
  • Datblygu Gallu Arweinyddiaeth a Rheoli drwy Ymholiad

Dewisol

  • Mentora a Hyfforddi: Egwyddorion a Pholisi ar Waith
  • Ymarfer Amlasiantaeth

MA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Mae pob modiwl yn canolbwyntio ar gymhwyso i gyd-destunau ymarfer gwaith maes cyfoes. Mae’r modiwlau a addysgir yn cynnwys darlithoedd a gwaith grŵp/trafodaeth, gyda’r ddau fodiwl ynghlwm wrth y lleoliad yn rhoi mwy o gyfle i ddatblygu myfyrio beirniadol a dadansoddi cyd-destun, gyda mwy o ffocws acíwt ar ymarfer. Addysgir pob modiwl gan weithwyr ieuenctid a chymunedol proffesiynol profiadol iawn sydd ag ystod eang o brofiad. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â chryn dipyn o hunan-astudio i wella’r broses ddysgu gyfunol. Rhagwelir y bydd myfyrwyr yn defnyddio eu profiad gwaith maes i wella lefel y dadansoddi ym mhob proses ddysgu a chymryd rhan mewn dysgu myfyriol drwy gydol y cwrs.

Bydd y llwybr llawn amser yn golygu mynychu’r brifysgol i astudio cyfanswm o ddau fodiwl tiwtorial bob nos Fawrth 5-7yh dros un flwyddyn academaidd. Cyflwynir y pedwar modiwl a addysgir fel bloc astudio; pob un yn cael ei addysgu’n ddwys yn gyffredinol dros dri diwrnod wyth awr yn olynol, dau fesul semester. Bydd y modiwlau astudio bloc hefyd yn cael eu hategu gan ddeunyddiau dysgu ar-lein a seminarau byw Teams ar-lein. Bydd deunyddiau dysgu ar-lein yn cael eu lanlwytho i Moodle platfform dysgu’r brifysgol.

Bydd y llwybr rhan-amser yn golygu mynychu’r brifysgol i astudio cyfanswm o ddau fodiwl tiwtorial ddwywaith yr wythnos ar nos Fawrth 5-7yh. ym mlynyddoedd 1 a 2. Cyflwynir y pedwar modiwl a addysgir fel bloc astudio; pob un yn cael ei addysgu’n ddwys yn gyffredinol dros dri diwrnod wyth awr yn olynol, un fesul semester. Bydd y modiwlau astudio bloc hefyd yn cael eu hategu gan ddeunyddiau dysgu ar-lein a seminarau byw Teams ar-lein. Bydd deunyddiau dysgu ar-lein yn cael eu lanlwytho i Moodle platfform dysgu’r brifysgol.

Bydd myfyrwyr ar lwybrau rhan-amser ac amser llawn yn cael Tiwtor Proffesiynol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol y rhaglen, Goruchwyliwr Gwaith Maes ar bob lleoliad a fydd yn cefnogi ac yn arwain y myfyriwr tra byddant ar leoliad a Goruchwyliwr Proffesiynol i gefnogi ac arwain y myfyriwr drwy’r broses traethawd hir. Mae hyn yn cynnwys mireinio’r cwestiwn, adolygu llenyddiaeth, dewis dulliau a dadansoddi data. Lle bo’n bosibl, bydd y myfyriwr yn cael goruchwyliwr sydd ag arbenigedd ym maes diddordeb ymchwil y myfyriwr.

Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Caiff hyn ei gyflawni yn yr un modd â’r MA llawn ag y mae wedi’i wreiddio yn yr MA a dyfarniad ymadael i’r rhai nad ydynt yn dymuno cwblhau dyfarniad meistr llawn.

Bydd myfyrwyr ar lwybrau rhan-amser ac amser llawn fel gyda’r MA yn cael Tiwtor Proffesiynol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol y rhaglen, Goruchwyliwr Gwaith Maes ar bob lleoliad a fydd yn cefnogi ac yn arwain y myfyriwr tra byddant ar leoliad.

MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch

Mae pob modiwl yn archwilio nodweddion sy’n bresennol mewn cyd-destunau ymarfer gwaith ieuenctid a chymunedol cyfoes ar lefel uwch ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ystyried y cynnwys mewn perthynas â’u profiadau byd go iawn eu hunain. Addysgir modiwlau’n sylweddol gan weithiwr ieuenctid a chymunedol proffesiynol ac academyddion ag arbenigedd yn ôl modiwlau. Mae’r modiwlau’n cynnwys darlithoedd a gwaith grŵp/trafodaeth. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â chryn dipyn o hunan-astudio i wella’r broses ddysgu gyfunol.

Bydd astudio’r llwybr llawn amser yn golygu mynychu’r brifysgol i astudio modiwlau sy’n cael eu cyflwyno fel bloc astudio; pob un yn cael ei addysgu’n ddwys yn gyffredinol dros dri diwrnod wyth awr yn olynol, tri fesul semester. Bydd y modiwlau astudio bloc hefyd yn cael eu hategu gan ddeunyddiau dysgu ar-lein a seminarau byw Teams ar-lein. Bydd deunyddiau dysgu ar-lein yn cael eu lanlwytho i Moodle platfform dysgu’r brifysgol.

Bydd astudio’r llwybr rhan-amser yn golygu mynychu’r brifysgol i astudio modiwlau sy’n cael eu cyflwyno fel bloc astudio; yn gyffredinol, mae pob un yn cael ei addysgu’n ddwys dros dri diwrnod wyth awr yn olynol, dau fesul semester ym mlwyddyn 1 a semester un o flwyddyn 2, gydag un yn semester dwy flwyddyn 2. Bydd y modiwlau astudio bloc hefyd yn cael eu hategu gan ddeunyddiau dysgu ar-lein a seminarau byw Teams ar-lein. Bydd deunyddiau dysgu ar-lein yn cael eu lanlwytho i Moodle platfform dysgu’r brifysgol.

Bydd myfyrwyr ar lwybrau rhan-amser ac amser llawn yn cael Tiwtor Personol a fydd yn cynnig cymorth bugeiliol drwy gydol y rhaglen. Bydd Goruchwyliwr Proffesiynol yn cael ei ddyrannu i gefnogi ac arwain y myfyriwr drwy’r broses traethawd hir i gynnwys mireinio’r cwestiwn, adolygu llenyddiaeth, dewis dulliau a dadansoddi data. Lle bo’n bosibl, bydd y myfyriwr yn cael goruchwyliwr sydd ag arbenigedd ym maes diddordeb ymchwil y myfyriwr.

Bydd myfyrwyr ar y rhaglenni ETS a gymeradwyir yn broffesiynol yn cael eu hasesu ar eu hymarfer seiliedig ar waith ieuenctid a chymunedol a’u haseiniadau academaidd drwy ystod o fathau o asesu, gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, dadleuon, Blogiau, ymarferion grŵp, gwaith clyweledol. Bydd myfyrwyr yn derbyn anodiadau manwl ar yr holl waith ysgrifenedig ac adborth cryno sain ac adborth ysgrifenedig a sain manwl ar gyflwyniadau a dadleuon a aseswyd a phortffolio ymarfer myfyriol, gan gynnwys arsylwadau ac asesu gwaith maes a viva voce. Bydd astudiaeth ymchwil traethawd hir a aseswyd ar gyfer y rhai sy’n ymgymryd â graddau meistr llawn yn cael ei hasesu gydag adborth ysgrifenedig manwl gan ddau farciwr.

Bydd myfyrwyr ar y radd meistr Ymarfer Uwch yn cael eu hasesu drwy amrywiaeth o fathau o asesu, gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, dadleuon, blogiau, ymarferion grŵp, a gwaith clyweledol. Bydd myfyrwyr yn derbyn anodiadau manwl ar yr holl waith ysgrifenedig ac adborth cryno sain ac adborth ysgrifenedig a sain manwl ar gyflwyniadau a dadleuon academaidd gyda’r traethawd hir yn cael ei asesu gydag adborth ysgrifenedig manwl gan ddau farciwr.

MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Mae’r rhaglen yn arwain at MA academaidd a chymhwyster proffesiynol ym maes ieuenctid a chymunedol drwy ei chymeradwyaeth ar gyfer gwaith ieuenctid gan ETS Cymru Wales. Mae’r cymhwyster proffesiynol diploma ôl-raddedig yn gwella cyfleoedd cyflogaeth ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol yn sylweddol tra bod yr astudiaeth MA yn gwella sgiliau ymchwil a dadansoddi yn y maes yn sylweddol.

Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Mae’r Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yn bwynt ymadael o raglen y meistr sy’n arwain at gymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymunedol drwy ei gymeradwyaeth i waith ieuenctid gan ETS Cymru Wales. Mae’r cymhwyster yn gwella cyfleoedd cyflogaeth yn sylweddol ym maes gwaith ieuenctid a chymunedol.

MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at ymarferwyr a rheolwyr ym maes cyffredinol ac ehangu gwaith datblygu ieuenctid a chymunedol. Ei nod yw datblygu dealltwriaeth a sgiliau proffesiynol drwy amgylchedd dysgu cefnogol a heriol. Bydd y rhaglen o ddiddordeb arbennig i ymarferwyr profiadol sy’n rheoli agweddau ar ddarpariaeth datblygu ieuenctid neu gymunedol fel ymarferwyr uwch neu uwch ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau i bobl ifanc sy’n dymuno datblygu eu galluoedd dadansoddol a phroffesiynol.

Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheoli Gwaith Ieuenctid

Bwriad y rhaglen hon yw darparu pwynt ymadael o’r radd Meistr llawn mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch gyda thystysgrif ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar arfogi arweinwyr a rheolwyr ym maes cyfoes a newidiol gwaith ieuenctid gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i arwain a rheoli’n fedrus ac yn effeithiol yn ymarferol.

MA mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (llwybr cymhwyso)

Dylai ymgeiswyr gael o leiaf 200 awr o brofiad uniongyrchol a diweddar yn y sector gwaith ieuenctid a chymunedol neu waith cysylltiedig gyda phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau.

Mae profiad yn cyfrif – dylai ymgeiswyr fel arfer feddu ar radd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol, gall ymarferwyr nad oes ganddynt radd israddedig ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol wneud cais am Fynediad Eithriadol. Rydym yn croesawu profiad byw a chyda’n llwybr Mynediad Eithriadol, gallwch ennill gradd meistr a chymhwyster proffesiynol y sector.

Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Julia Rooney (jrooney@cardiffmet.ac.uk) i drafod hyn ymhellach.

Dim ond lleoedd amodol yr ydym yn cynnig ar gyfer y cwrs hwn, yn amodol ar gael gwiriad DBS manwl cyn dechrau’r cwrs. Gwiriwch ragor o wybodaeth DBS yma.

MA mewn Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch

Fel arfer, bydd gan ymgeiswyr brofiad sylweddol mewn gwasanaethau sy’n gweithio gyda phobl ifanc a chymunedau ac fel arfer dylent feddu ar radd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. Gall ymarferwyr nad oes ganddynt radd gyntaf, ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol, wneud cais am fynediad eithriadol. Cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen i drafod hyn ymhellach.

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon academaidd IELTS 6.0 heb unrhyw is-sgôr yn is na 5.5 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol.

Gweithdrefn Ddethol

Ffurflen gais, CV a chyfweliad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein system hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn ogystal â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael, cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Ffioedd Rhan-amser

Codir tâl fesul Modiwl Sengl oni nodir:

Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd

Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn (4 x 15 modiwl credyd). I gael gwir gost, eglurwch hyn drwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Gostyngiad i Weithwyr Partner

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cael eu cyflogi yn un o ysgolion partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Mae meini prawf a thelerau cymhwysedd yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen, Julia Rooney:

  • Lleoliad

    Campws Cyncoed

  • Ysgol

    Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

  • Hyd

    1 flwyddyn yn llawn amser.
    2-3 blynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.