Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cryfhau effaith eich arweinyddiaeth a chyflawni canlyniadau mesuradwy o fewn eich sefydliad.
Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy rhan-amser ym Met Caerdydd wedi’i chynllunio ar gyfer arweinwyr presennol ac arweinwyr uchelgeisiol i ddatblygu’r sgiliau arweinyddiaeth strategol sydd eu hangen i yrru twf sefydliadol cynaliadwy. Mae’n cyfuno arbenigedd academaidd, hyfforddi gweithredol ac ymarfer busnes ymarferol.
Fel rhan o Raglen Arweinyddiaeth lwyddiannus 20Twenty Canolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter Met Caerdydd, mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig hon wedi’i Hachredu’n Ddeuol gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI). Byddwch yn ennill cymhwyster proffesiynol CMI ychwanegol ac uchel ei barch – Tystysgrif Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Ymarfer Arweinyddiaeth. Hefyd, cyfleoedd dilyniant tuag at statws Rheolwr Siartredig a chredyd tuag at MBA Gweithredol Met Caerdydd.
Mewn dim ond 10 diwrnod dros 10 mis, byddwch yn archwilio chwe ffactor allweddol sy’n sbarduno twf busnes cynaliadwy, o arweinyddiaeth ac arloesedd i gyllid ac effeithlonrwydd gweithredol. Drwy weithdai trochol, dosbarthiadau meistr, hyfforddiant gweithredol un-i-un a thiwtora personol, byddwch yn meithrin y sgiliau a’r hyder i arwain newid a thwf busnes.
Byddwch yn cynhwyso’r cyfan i Brosiect Twf Strategol byw, gan greu strategaeth twf tair blynedd sy’n cyflawni effaith fesuradwy a chanlyniadau parhaol i’ch sefydliad. Byddwch yn graddio gyda dau gymhwyster arweinyddiaeth uchel eu parch a strategaeth twf ymarferol sy’n gallu llywio cymhlethdod, ysbrydoli eraill a chyflawni effaith sefydliadol barhaol.
Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy ym Met Caerdydd yn datblygu gwybodaeth uwch a dealltwriaeth feirniadol o arweinyddiaeth, rheolaeth a thwf sefydliadol o fewn amgylcheddau busnes cyfoes. Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol, mae’n eich galluogi i fynd i’r afael â heriau sefydliadol cymhleth trwy feddwl strategol, arloesi a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r rhaglen yn cyfuno datblygu arweinyddiaeth ag arbenigedd mewn twf busnes. Yn ystod camau cynnar y rhaglen, byddwch yn gwerthuso’n feirniadol eich arddull arweinyddiaeth bersonol, eich cryfderau a’ch anghenion datblygu trwy hyfforddiant gweithredol un-i-un, ymarfer myfyriol ac asesiad seicometreg. Wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, byddwch yn archwilio dulliau cyfoes o ymdrin ag arloesi, perfformiad sefydliadol, twf strategol, cyllid, marchnata ac arweinyddiaeth newid.
Gan dynnu ar ymchwil gyfredol, arfer diwydiant a heriau busnes yn y byd go iawn, mae’r rhaglen yn eich cyfarparu i ragweld cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, arwain trawsnewid sefydliadol a datblygu’r galluoedd sydd eu hangen i ffynnu mewn amgylcheddau cynyddol gymhleth ac ansicr.
Byddwch yn astudio tri modiwl craidd (60 credyd):
- Arweinyddiaeth, Newid ac Arloesi (20 Credyd)
- Gwella Perfformiad a Seiliau’r Prosiect Twf Strategol (20 Credyd)
- Prosiect Twf Strategol (20 Credyd)
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn ymgysylltu â’r themâu canlynol:
- Arweinyddiaeth strategol ac arfer rheoli
- Offer a fframweithiau arweinyddiaeth
- Newid sefydliadol ac arloesedd
- Twf busnes a strategaeth
- Marchnata a datblygu brand
- Cyllid ar gyfer gwneud penderfyniadau
- Deallusrwydd emosiynol a gwydnwch
- Perfformiad tîm a rheoli pobl
- Meddwl entrepreneuraidd a nodi cyfleoedd
- Hyfforddi gweithredol a datblygiad proffesiynol
Mae’r Prosiect Twf Strategol yn cynrychioli uchafbwynt eich astudiaethau. Gan ganolbwyntio ar her sefydliadol fyw, byddwch yn datblygu strategaeth twf tair blynedd sy’n trosi dysgu yn effaith fesuradwy yn y gweithle.
Mae prosiectau blaenorol wedi canolbwyntio ar feysydd fel gwella cynhyrchiant, twf refeniw, newid sefydliadol, ymgysylltiad staff, effeithlonrwydd gweithredol ac ehangu busnes.
Mae cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn darparu 60 credyd ar lefel meistr, gan greu llwybr dilyniant clir ac eithriad rhannol i MBA Gweithredol Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ar ôl graddio, anogir pob myfyriwr hefyd i wneud cais am statws Rheolwr Siartredig (CMgr) trwy lwybr carlam Met Caerdydd.
Cyflwyno’r Cwrs
Cyflwynir ein Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy ym Met Caerdydd trwy gymysgedd o weithdai rhyngweithiol, darlithoedd, seminarau, grwpiau trafod, tiwtorialau a hyfforddiant gweithredol un-i-un.
Mae dysgu yn gyfranogol iawn ac yn cyfuno damcaniaeth academaidd â chymhwysiad busnes ymarferol. Byddwch yn ymgysylltu â siaradwyr gwadd arbenigol, ymarferwyr busnes ac academyddion, tra bod grwpiau trafod cydweithredol yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gan gymheiriaid, rhwydweithio a datrys problemau.
Nodwedd allweddol o’r rhaglen yw’r Prosiect Twf Strategol, sy’n eich galluogi i gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu’n uniongyrchol i her fusnes go iawn o fewn eich sefydliad eich hun.
Diwrnodau Cyswllt a Dysgu Annibynnol
Wedi’i gyflwyno’n rhan-amser dros 10 mis gan gynnwys 10 diwrnod o weithdai, sesiynau hyfforddi gweithredol a chefnogaeth tiwtor personol. Yn ogystal â chyflwyno wedi’i hamserlennu, disgwylir i chi ymgymryd ag astudiaeth annibynnol, gan gynnwys darllen, ymchwil, paratoi aseiniadau a gweithio ar eich Prosiect Twf Strategol.
Cefnogaeth
Byddwch yn elwa o gefnogaeth academaidd a phroffesiynol gynhwysfawr, gan gynnwys Tiwtor Academaidd Personol pwrpasol, Hyfforddiant Gweithredol un-i-un, gweithdai aseiniadau, tiwtorialau a mynediad at Wasanaethau Myfyrwyr. Mae Hyfforddi Gweithredol yn ymgorffori proffilio seicometreg a chynllunio datblygu personol. Mae grwpiau trafod cydweithredol yn darparu rhwydwaith cymorth ychwanegol drwy gydol y rhaglen.
Technoleg a Chyfleusterau
Bydd gennych fynediad at adnoddau dysgu digidol helaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell ar-lein, ChwilioMet, e-lyfrau, cronfeydd data academaidd, cyfnodolion a CMI Management Direct. Mae Wi-Fi, cyfleusterau TG y Brifysgol a deunyddiau dysgu ar-lein yn cefnogi astudio hyblyg ac annibynnol.
Arbenigedd Staff
Cyflwynir y rhaglen gan academyddion profiadol, hyfforddwyr gweithredol ac arweinwyr busnes sydd ag arbenigedd mewn arweinyddiaeth, entrepreneuriaeth, datblygu sefydliadol, seicoleg, cyllid a thwf busnes. Mae’r tîm yn cynnwys athrawon, seicolegwyr siartredig, hyfforddwyr gweithredol profiadol ac ymarferwyr diwydiant sy’n dod â phrofiad arweinyddiaeth helaeth o’r byd go iawn i’r amgylchedd dysgu.
Mae asesu wedi’i gynllunio i gyfuno dysgu academaidd â chymhwysiad ymarferol yn y gweithle. Yn hytrach nag arholiadau traddodiadol, byddwch yn cael eich asesu trwy ystod o weithgareddau sy’n seiliedig ar waith cwrs, gan gynnwys aseiniad ysgrifenedig, cyflwyniad i diwtor a Phrosiect Twf Strategol sy’n canolbwyntio ar her sefydliadol wirioneddol. Mae’r asesiadau hyn yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso sgiliau arweinyddiaeth, ymchwil, dadansoddi a datrys problemau i faterion busnes byw o fewn eu sefydliadau eu hunain.
Byddwch yn derbyn cefnogaeth helaeth drwy gydol y broses asesu. Mae gweithdai aseiniadau pwrpasol yn darparu canllawiau ar ysgrifennu academaidd, gofynion asesu a datblygu prosiectau. Bydd Tiwtor Academaidd Personol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr sy’n cynnig cefnogaeth ac adborth unigol ar gynlluniau aseiniadau a syniadau prosiect. Mae cymorth ychwanegol ar gael drwy hyfforddiant gweithredol un-i-un, tiwtorialau, grwpiau trafod cyfoedion a mynediad i lyfrgell, cronfeydd data ar-lein ac adnoddau dysgu Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae adborth yn rhan annatod o’r profiad dysgu. Mae myfyrwyr yn derbyn arweiniad ffurfiannol drwy gydol y rhaglen a gallant drafod eu cynnydd gyda thiwtoriaid a hyfforddwyr. Mae asesiadau’n cael eu marcio’n amserol gydag adborth manwl yn tynnu sylw at gryfderau, meysydd i’w gwella a chynnydd yn erbyn y canlyniadau dysgu. Mae pob asesiad yn destun prosesau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan sicrhau trylwyredd academaidd a chysondeb safonau.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio mewn rolau arweinyddiaeth, yn ogystal â’r rhai sy’n anelu at symud ymlaen i swyddi strategol uwch. Drwy gyfuno astudiaeth ôl-raddedig â chymhwyso yn y gweithle, byddwch yn datblygu’r hyder, y fewnwelediad strategol a’r gallu arweinyddiaeth sydd eu hangen i arwain twf, trawsnewid ac arloesedd sefydliadol.
Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i rolau uwch reolwyr, arweinyddiaeth weithredol a lefel cyfarwyddwyr ar draws ystod eang o sectorau. Mae’r rhaglen yn arbennig o werthfawr i weithwyr proffesiynol sy’n ceisio symud o arweinyddiaeth weithredol i gyfrifoldebau strategol ehangach.
Yn ogystal â’r Dystysgrif Ôl-raddedig, mae cyfranogwyr hefyd yn cyflawni cymhwyster Lefel 7 CMI a gallant symud ymlaen tuag at statws Rheolwr Siartredig (CMgr) trwy lwybr carlam Met Caerdydd. Mae cwblhau’n llwyddiannus hefyd yn darparu 60 credyd lefel meistr o’r 120 credyd gofynnol a all gyfrannu at MBA Gweithredol Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan greu llwybr clir ar gyfer datblygiad proffesiynol ac academaidd parhaus.
Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar radd israddedig yn y DU (dosbarthiad 2:2 o leiaf) neu gymhwyster cyfatebol. Fel arall, bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol o dair blynedd o leiaf mewn rheoli uwch, neu gymhwyster proffesiynol priodol, hefyd yn cael eu hystyried.
Gellir ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad safonol ar sail unigol, gan ystyried eu profiad a’u cyflawniadau proffesiynol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg ddarparu tystiolaeth o rhuglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol.
Mae mesurau sicrhau ansawdd yn cael eu cymryd ar lefel rhaglen, ysgolion a sefydliadol i sicrhau bod safonau’n cael eu bodloni’n gyson.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth Greadigol a Menter, Christopher Byrne:
- E-bost: cbyrne@cardiffmet.ac.uk
-
Ysgol
Ysgol Reoli Caerdydd
-
Cychwyn
Derbyniadau Lluosog
-
Hyd
10 diwrnod dros 10 mis
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.