Skip to content

Does dim byd yn amhosibl

15 Mehefin 2026

I nodi Wythnos y Ffoaduriaid, mae Dr Shahira Shahir o Ysgol Reoli Caerdydd yn myfyrio ar ei thaith o adael Afghanistan a cheisio lloches yn y DU i gael PhD.

 

A woman wearing glasses and a striped shirt stands at the bottom of a staircase.

 

Fel merch naw oed o Affganistan, pan gymerodd y Taliban reolaeth dros Affganistan am y tro cyntaf, cefais fy ngwahardd rhag mynychu’r ysgol oherwydd fy mod yn fenyw. Roeddwn i’n aml yn meddwl tybed beth oedd yn y llyfrau yr oeddem wedi’i wahardd rhag eu darllen. Arweiniodd y chwilfrydedd hwnnw i mi barhau â’m haddysg mewn dosbarthiadau cyfrinachol, a gynhaliwyd o dan goeden yn nhŷ fy athro, roedd hyn yn risg fawr.

Pan syrthiodd y Taliban yn 2001, dychwelais i addysg ffurfiol. Es ymlaen i ennill gradd baglor mewn economeg o Brifysgol Herat, ac yna ysgoloriaeth i astudio MBA yn India.

Erbyn i mi fod yn 26 oed, roeddwn i wedi dod yn Ddeon Cyfadran ym Mhrifysgol Qhalib. Er fy mod i’n rhydd i astudio ac addysgu, roeddwn i’n gweithio mewn amgylchedd a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion ac yn wynebu gwahaniaethu sylweddol ar sail rhyw. Er gwaethaf yr heriau hyn, arhosais yn benderfynol a gwasanaethais yn llwyddiannus yn y rôl hon am bedair blynedd. Yn ddiweddarach ymunais â Phrifysgol Herat fel darlithydd a chefais fy nyrchafu i uwch ddarlithydd o fewn tair blynedd.

Yn 2021, pan ddychwelodd y Taliban ac unwaith eto wahardd menywod rhag addysg a’r gwaith, cafodd pob dim y gwnes adeiladu ei gymryd wrthyf i. Ond gwrthodais hyn i fod yn ddiwedd i fy stori.

Yn benderfynol o beidio â rhoi’r gorau iddi, llwyddais i sicrhau ysgoloriaeth gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, ynghyd â chymrodoriaeth gan CARA (sefydliad sy’n helpu academyddion sy’n cael eu gorfodi i ffoi o’u gwledydd cartref), a symudais i Gymru i astudio fy ngradd doethuriaeth, gan adael fy nheulu a’m ffrindiau ar ôl.

Profodd dechrau astudio doethuriaeth mewn cydraddoldeb rhywedd mewn gwlad a chyd-destun hollol newydd fy newrder, nerth a’m gwydnwch, a datgelodd yr hyn roeddwn yn wirioneddol abl i’w wneud. Drwy gydol y daith, des i ddeall bod anghydraddoldeb rhywedd yn ffenomen fyd-eang, wedi’i llunio gan gyd-destun ac wedi’i fynegi mewn amrywiol ffurfiau ar draws gwahanol leoliadau sefydliadol a diwylliannol.

Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddais erthygl ar academyddion benywaidd yn Affganistan, cyflwynais fy ngwaith mewn pedair cynhadledd academaidd, cyfrannais at ddau brosiect ymchwil fel Uwch Gynorthwyydd Ymchwil, rhoddais sgyrsiau cyhoeddus fel academydd Affganaidd, fi oedd y person cyntaf o Affganistan i gael cymrodoriaeth yn yr elusen addysg Cumberland Lodge. Rwyf bellach yn gweithio fel Tiwtor Cyswllt Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Heddiw, ar ôl cwblhau fy ngradd doethuriaeth, credaf nad oes unrhyw beth yn amhosibl, cyn belled a nad ydym yn rhoi’r gorau iddi. Rwy’n parhau â’m taith academaidd gydag ymrwymiad dwfn i gydraddoldeb. Nid stori am yr hyn rwyf wedi’i ddioddef yw hon, mae’n stori am yr hyn rwyf yn ei gynrychioli: yr hawl i addysg, urddas a chyfle. Rwy’n benderfynol o ddefnyddio fy llais, fy ymchwil a’m profiad i herio anghydraddoldeb a chyfrannu at newid ystyrlon, fel nad oes neb unrhyw un yn cael ei wadu o’i ddyfodol oherwydd pwy ydyn nhw.