Met Caerdydd yn Dathlu Cynrychiolaeth Gref yn Nhîm Gemau'r Gymanwlad Cymru

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn falch o ddathlu llwyddiant ysgubol ei myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr yn dilyn cyhoeddiad tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad sydd ar ddod.
Mae nifer sylweddol o gynrychiolwyr Met Caerdydd wedi cael eu dewis i gystadlu dros Dîm Cymru, gan danlinellu rhagoriaeth barhaus y Brifysgol wrth ddatblygu athletwyr elitaidd ar draws ystod o chwaraeon. Mae'r detholiadau'n tynnu sylw at gryfder rhaglenni chwaraeon Met Caerdydd a'i henw da fel sefydliad blaenllaw ar gyfer chwaraeon perfformiad uchel yn y DU.
SYmhlith y rhai a ddewiswyd ar gyfer Tîm Cymru mae myfyrwyr presennol, aelodau staff a chyn-fyfyrwyr, y mae llawer ohonynt wedi symud ymlaen drwy lwybrau perfformio enwog Met Caerdydd.
Mae Met Caerdydd yn falch o gydnabod y staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr canlynol a ddewiswyd i gynrychioli Cymru:
- Adelle Nicholl – Athletau
- Ellie Bowen - Athletau
- Aled Sion Davies – Athletau
- Fumni Oduwaiye – Athletau
- Harrison Walsh – Athletau
- Jeremiah Azu – Athletau
- Daniel Pitt – Bocsio
- Rosie Eccles - Bocsio
- Ashleigh Barnikel – Jiwdo
- Holly Devall – Jiwdo
- Jack Knight – Nofio
- Nikole Roberts – Codi Pwysau
Mae eu dewis yn adlewyrchu blynyddoedd o waith caled, ymrwymiad a chefnogaeth gan hyfforddwyr, staff academaidd a thimau gwasanaethau perfformio Met Caerdydd.
Y Tu Ôl i'r Tîm: Staff Hyfforddi a Chymorth
Mae dylanwad Met Caerdydd yn ymestyn y tu hwnt i athletwyr, gyda nifer o staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn chwarae rolau allweddol y tu ôl i'r llenni fel rhan o dimau cymorth Cymru a gwledydd eraill.
Mae eu harbenigedd yn hanfodol wrth baratoi athletwyr i berfformio ar y lefel uchaf ar lwyfan y Gymanwlad.
Dywedodd yr Athro Rachael Langford, Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
“Rydym yn hynod falch o’n holl fyfyrwyr a staff presennol a chyn-fyfyrwyr sydd wedi cael eu dewis ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Mae eu cyflawniadau yn dyst i'w hymroddiad a'u talent sylweddol. Fel prifysgol chwaraeon Cymru, rydym yn falch ein bod yn brifysgol lle mae cefnogaeth i ragoriaeth academaidd yn cael ei chyfateb ag amgylchedd perfformiad uchel i athletwyr ym mhob cam o'u taith. Mae'n anrhydedd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd fod wedi chwarae rhan yn eu taith fel athletwyr, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant i'n holl fyfyrwyr a staff presennol a chyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill eu dewis wrth iddynt baratoi i gystadlu ar lwyfan y byd."