Straeon lleol yn dod â Maesteg yn fyw mewn lansiad Llwybr y Dref newydd
Mae prosiect twristiaeth newydd sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n seiliedig ar adrodd straeon, ar fin taflu goleuni newydd ar Faesteg, gan roi lleisiau lleol wrth wraidd profiad ymwelwyr o'r dref.
Mae Llwybr Diwylliant a Threftadaeth Tref Maesteg, yn gydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n gwahodd pobl i archwilio'r dref trwy straeon personol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yno.
Yn ei hanfod, mae'r prosiect yn mabwysiadu dull gwahanol o ymdrin â thwristiaeth. Yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar dirnodau, mae’n casglu ac yn rhannu hanes byw – straeon am dreftadaeth, lle, cymuned, a hunaniaeth – yn uniongyrchol gan drigolion a busnesau lleol.
Mae'r straeon hyn wedi'u casglu drwy weithdai a phartneriaethau ar draws y gymuned, gan ganiatáu i ymwelwyr ddilyn llwybr digidol drwy'r dref wrth wrando ar y lleisiau y tu ôl i'w hanes a'i diwylliant.
Mae Llwybr Diwylliant a Threftadaeth Maesteg yn cynnwys tua 20 o bwyntiau stori, gan dynnu sylw at dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y dref ochr yn ochr â'i busnesau annibynnol, gwneuthurwyr a mannau cymunedol.
O straeon adnabyddus a rannwyd gan y storïwr lleol Graham Loveluck-Edwards, i atgofion newydd eu recordio gan drigolion a masnachwyr, mae'r llwybr yn creu profiad haenog a throchol sy'n annog ymwelwyr i gysylltu'n fwy ystyrlon â'r ardal. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio, nid yn unig i ddenu ymwelwyr, ond i fod o fudd i'r gymuned ei hun, gan gefnogi balchder lleol, lles ac adfywio economaidd.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref i ardaloedd sy'n wynebu heriau economaidd, ond mae hefyd yn dal cyfoeth o asedau diwylliannol a naturiol nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddigonol. Mae Prosiect Llwybrau’r Dref yn ceisio pontio’r bwlch hwnnw drwy roi’r offer i gymunedau adrodd eu straeon ei hunain a llunio sut mae eu lleoedd yn cael eu cyflwyno.
Mae'r fenter yn cyd-fynd â chynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y cymoedd, gan gynnwys Maesteg, drwy annog twristiaeth gynaliadwy sydd wedi'i gwreiddio mewn hunaniaeth leol.
Mae hefyd yn cefnogi nodau lles allweddol - helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a'u cysylltu, wrth hyrwyddo cymunedau iachach a mwy bywiog
Tynnodd Dr Karen Davies o Ysgol Reoli Met Caerdydd, sy'n arwain y prosiect, sylw at bwysigrwydd rhoi pobl wrth wraidd datblygiad twristiaeth:
“Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chydnabod mai pobl leol yw’r gwir arbenigwyr yn eu lleoedd ei hunain. Drwy gofnodi a rhannu eu straeon, nid yn unig rydym yn creu profiadau ystyrlon i ymwelwyr, ond hefyd yn dathlu hunaniaeth, yn cryfhau balchder cymunedol, ac yn cefnogi adfywio mewn ffordd sy'n ddilys ac yn gynaliadwy.
“Er mai Maesteg yw’r lleoliad cyntaf, mae’r prosiect wedi’i ddatblygu fel model peilot y gellid ei gyflwyno ar draws rhannau eraill o’r fwrdeistref sirol ac o bosibl ymhellach ar draws Cymru.”
Gallai llwybrau yn y dyfodol archwilio themâu fel natur, bwyd, neu ddiwydiant, gan adeiladu rhwydwaith o brofiadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned, yn ddwyieithog, ac yn hygyrch am ddim.