Tîm Economi Gylchol Met Caerdydd yn helpu prosiect natur i gael mynediad at gyllid gan y llywodraeth
Mae prosiect newydd, Prosiectau Natur, sy’n troi algâu yn wrtaith, wedi cael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan brosiect Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) arobryn ym Met Caerdydd.
Defnyddiodd tîm CEIC gyllid o Gronfa ‘Newydd i’r Economi Gylchol’ (Cronfa N2CE) a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i droi deunydd dros ben o ficroalgâu yn wrtaith hylif defnyddiol.
Dywedodd Dr Gary Walpole, Cyfarwyddwr CEIC: “Fe wnaethon ni gyd-greu, gyda Llywodraeth Cymru, gronfa sbarduno ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu prosiectau arloesi’r economi gylchol. Cynigiodd y gronfa beilot Newydd i’r Economi Gylchol hyd at £10,000 mewn grantiau i sefydliadau fel rhan o gyfnod cwmpasu neu ddichonoldeb gwerth £15,000 ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Cefnogodd CEIC Cymru 77 o sefydliadau i ddatblygu ceisiadau amlinellol gyda 27 yn cyflwyno eu prosiectau arfaethedig i banel Llywodraeth Cymru a llwyddodd 18 o sefydliadau i sicrhau cyllid i ddatblygu astudiaethau dichonoldeb cadarn ar gyfer eu prosiect arloesi’r economi gylchol arfaethedig.”
Dysgwch fwy am Brosiectau Natur a chanlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb drwy wylio’r fideo uchod.