Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio
Cardiff Met Logo

Haf Hayes

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol (Cyfrwng Cymraeg)
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Mae Haf Hayes yn Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol (Cyfrwng Cymraeg) yn yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol. Ymunodd â'r Brifysgol yn dilyn gyrfa o dros 30 mlynedd mewn addysg gynradd yn ne-ddwyrain Cymru.

Graddiodd gyda gradd BA o Brifysgol Bangor a MA ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn cwblhau ei Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1992. Mae ei chefndir academaidd a'i phrofiad helaeth mewn ysgolion wedi llywio ei hymrwymiad i gefnogi athrawon hyderus, myfyriol ac effeithiol.

Mae Haf yn aelod o dimau rhaglenni BA Addysg Gynradd gyda SAC a TAR Cynradd, gan gyfrannu at addysgu, asesu a datblygu'r cwricwlwm. Mae hefyd yn diwtor Cymraeg, gan gefnogi darpar athrawon i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a'u hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hymarfer proffesiynol. Sefydlodd Gôr Cymraeg y brifysgol sydd yn perfformio yn flynyddol yn y Gwasnaeth Carolau.

Mae ganddi arbenigedd penodol mewn addysgu gwyddoniaeth gynradd. Yn 2019, enillodd wobr Athro Gwyddoniaeth Cynradd gan y Primary Science Teaching Trust (PSTT) i gydnabod ei chyfraniad i addysg wyddonol.

Mae ei diddordebau ymchwil cyfredol yn deillio o'i hymwneud â phrosiectau ymchwil Tŷ Froebel, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng addysgeg Froebel ac egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Hi hefyd yw cydlynydd rhyngwladol y cyrsiau AGA sydd yn datblygu cyfleoedd ymchwil mewn addysg gymharol. Trwy ei haddysgu, ei hymchwil a'i gwaith partneriaeth, mae wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg athrawon o'r safon uchaf a chefnogi datblygiad gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.