Matt Lloyd
Darlithydd mewn Cyfryngau a Newyddiaduraeth
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Mae Matt yn cyfuno ei waith fel darlithydd mewn cyfryngau a newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd gyda’i rôl fel uwch newyddiadurwr yn y BBC yma yng Nghaerdydd.
Ar ôl graddio o Brifysgol Sussex gyda BA (Anrhydedd) mewn Gwleidyddiaeth, cwblhaodd ei astudiaethau ôl-radd mewn newyddiaduraeth gyda’r NCTJ (Cyngor Cenedlaethol Hyfforddi Newyddiadurwyr) yn Brighton.
Yn dilyn cyfnod o weithio fel newyddiadurwr newyddion dan hyfforddiant yng Ngorllewin Sussex, aeth ymlaen i fod yn brif ohebydd gyda phapurau rhanbarthol dyddiol yng ngorllewin Cymru, gan gynnwys y Western Mail a’r South Wales Echo, cyn ymuno â Westgate Sports Agency fel newyddiadurwr chwaraeon.
Treuliodd Matt 13 mlynedd yn yr asiantaeth honno – a gafodd ei ystyried ar y pryd fel un o’r asiantaethau newyddion chwaraeon mwyaf dylanwadol yn y DU – lle bu’n ysgrifennu ar gyfer pob un o’r prif bapurau newydd cenedlaethol (gan gynnwys The Sun, Daily Mirror, Daily Express, Guardian, Independent), prif bapurau newydd dydd Sul (gan gynnwys Sunday Times, Mail on Sunday ac Observer) yn ogystal â gwasanaethau newyddion rhyngwladol fel Press Association a Reuters.
Roedd ei waith yn cynnwys adrodd ar ddigwyddiadau chwaraeon byd-eang, gan gynnwys y Gemau Olympaidd, Cwpan Rygbi’r Byd, Gemau’r Gymanwlad, Pencampwriaethau Ewrop, Cwpan Ryder a’r Gyfres Lludw, tra hefyd yn dod yn brif ysgrifennwr rygbi yng Nghymru i’r News of the World.
Ymunodd Matt â’r BBC yn 2016, le bu’n gweithio yn adrannau chwaraeon a newyddion, ac mae wedi ymdrin â nifer o ddigwyddiadau newyddion mawr, gan gynnwys etholiadau cyffredinol a throsedd, ar draws wahanol lwyfannau, gan gynnwys ar-lein, radio a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae bellach yn bennaeth newyddion BBC Sport Wales.
Ymunodd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2020 fel darlithydd cyswllt cyn dod yn aelod parhaol o staff ddwy flynedd yn ddiweddarach.