Bioamrywiaeth
01 - 02
Mae gwella bioamrywiaeth yn rhan bwysig o ymrwymiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gynaliadwyedd, gan helpu i greu ecosystemau iachach, cefnogi bywyd gwyllt lleol, a darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu, lles, ac ymgysylltu â'r gymuned.
Prosiect Adfer Queenswood
Mae Met Caerdydd yn adfer coetir Cyncoed drwy ailgyflwyno rhywogaethau coed brodorol, gwella bioamrywiaeth, gwella iechyd y pridd, a chreu ecosystem gwytnach ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Ystâd yn parhau i reoli'r coetir er mwyn annog adfywiad naturiol ac i ddiogelu'r coed aeddfed.
01 - 04
Gwella Cynefionedd
01 - 08
Mae pren yn cael ei ailddefnyddio i adeiladu blychau adar
Bydd cynefinoedd pren marw yn cael eu creu i gefnogi pryfed, ffyngau, ac adar
Rydym yn tyfu blodau gwyllt brodorol
Rydym yn cefnogi ein pryfed peillio lleol trwy osod blychau gwenyn
Cefnogi Adfywiad Coed Derw
Yn yr hydref, byddwn yn casglu ac yn plannu mes o goed derw aeddfed i gefnogi adfywiad coed derw. Bydd defnyddio mes lleol yn helpu i gynnal hunaniaeth genetig y coetir ac yn cefnogi gwytnwch yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
01 - 04
01 - 01