Skip to content

Ymchwil Amgylcheddol

A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container. A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container.
01 - 02

Gyda hanes rhagorol o ymchwil cymhwysol, a gefnogir gan sylfaen gadarn o arbenigedd ac ysgolheictod uwch, mae ymchwil y Brifysgol yn cael ei gymhwyso'n uniongyrchol ym myd busnes, diwydiant, y proffesiynau a'r gymuned.


Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Prince William engages in conversation with two workers in lab coats and hairnets Prince William engages in conversation with two workers in lab coats and hairnets

Arloesi Cynaliadwy mewn Gwymon

Yn 2024, fel rhan o ddatblygiad parhaus yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE - canolfan flaenllaw sy'n cefnogi arloesi ym myd bwyd cynaliadwy - bu Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn ymweld â'r cyfleuster i ddysgu am eu prosiectau gwyddor bwyd, mae, a deddfwriaeth bwyd. Roedd yr ymweliad yn cyd-daro a digwyddiad a gynhaliwyd gan Wobr Earthshot a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a oedd yn canolbwyntio ar botensial cynaliadwy ffermio gwymon adfywiol.

01 - 04
View from above looking over the National Indoor Athletics Centre View from above looking over the National Indoor Athletics Centre

Eco-Athletwyr megis Asiantau Newid

Mae'r Grŵp Ymchwil Cymdeithaseg ac Athroniaeth Chwaraeon yn cymryd rhan mewn gwaith sy'n ymwneud a moeseg, cydraddoldeb ac asiantaeth foesol. Mae prosiect penodol ar y gweill sydd yn ymwneud â bywydau, diddordebau, a gweithgareddau eco-athletwyr, a'u bod yn asiantau newid mewn chwaraeon. Yn benodol, mae'n ymwneud a chynaliadwyedd amgylcheddol mewn chwaraeon, a goblygiadau newid hinsawdd a diraddiad amgylcheddol.

01 - 04

Ysgol Reoli Caerdydd

A close-up of a person writing on a large sheet of paper with a marker pen.
Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC)

Mae prosiectau diweddar gan Ysgol Reoli Caerdydd wedi datblygu trwy'r fenter Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC) a'r Ganolfan Arloesi ac Adfywio Ranbarthol, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM). Gyda chefnogaeth Cyllid SMART FIS Lefel 1 Llywodraeth Cymru, roedd y papur dilynol yn nodi ffrydiau gwastraff gofal iechyd â blaenoriaeth, gan gynnwys PPE, offerynnau llawfeddygol, meddyginiaethau ac offer arlwyo.

Three colour-coded waste and recycling bins
Met Caerdydd x ELITE Recycling

Roedd un prosiect gydag ELITE Recycling yn ailddefnyddio gwastraff cardfwrdd BIPCTM i greu gwasarn ar gyfer uned cŵn a cheffylau Heddlu De Cymru. Mae'r gwaith ymchwil yn dangos y gall gwella sut rydym yn gwahanu gwastraff a dewis cyflenwadau sy'n gallu cael ei hailddefnyddio arwain at leihau gwastraff plastig, lleihau costau, lleihau allyriadau carbon, a chefnogi uchelgais BIPCTM i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Cardiff School of Management entrance
Eraill

Mewn mannau eraill o'r Ysgol Reoli ceir astudiaethau eraill sy'n ymwneud â diben ac arwyddocâd rhaglenni amgylcheddol gwirfoddol o ran newid ymddygiad o fewn marchnata gwyrdd, a'r gyrwyr a'r rhwystrau sy'n effeithio ar weithredu rhaglenni rheoli amgylchedd yn benodol.

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

A round wooden building with wooden ramp and surrounding decking A round wooden building with wooden ramp and surrounding decking

Y Ganolfan Dysgu Awyr Agored

Un o nodweddion amlwg yr Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol yw'r Ganolfan Dysgu Awyr Agored. Mae'r Ganolfan wedi'i leoli ar ddau hectar o goetir aeddfed ar Gampws Cyncoed. Ystafell ddosbarth pren yw hwn lle cynhelir gweithgareddau ysgol goedwig a chyrsiau byw (gan gynnwys Adrodd Straeon). Mae hefyd yn gartref i'r grŵp ymchwil dysgu awyr agored. Mae'r Ysgol yn dal i gydweithio â rhestr helaeth o randdeiliaid allanol.

01 - 04

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Two students talk outside the glass entrance to the Cardiff School of Art and Design Two students talk outside the glass entrance to the Cardiff School of Art and Design

Dylunio Ecolegol

Mae gwaith dylunio ecolegol yn rhan sefydledig o bortffolio ymchwil Ysgolion. Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yw cartref Grŵp Ymchwil a  Menter Ecolegol yr Amgylchedd Adeiledig, sy'n dwyn gwaith ymchwil ynghyd gyda nifer o bartneriaid cydweithredol allanol. Enghraifft arall yw gwaith adeiladu a gweithrediad adeiladu, yr amgylchedd a pherfformiad ynni a gwerthuso defnydd adeiladu ac effeithiau ar iechyd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Grŵp Ymchwil yr Amgylchedd wedi cyhoeddi amrywiaeth o bapurau ymchwil sy'n edrych ar Gynaliadwyedd a Thai Cymdeithasol yng Nghymru.

01 - 04

PDR

Notes being taken by an individual
Beth yw PDR?

Mae PDR yn sefydliad blaengar sy'n cynnig ymgynghori ar ddylunio ac ymchwil gymhwysol. Maen nhw'n canolbwyntio ar ddefnyddio dylunio i arloesi yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Gan weithio gyda brandiau cydnabyddedig a sefydliadau dylanwadol, mae tîm ymgynghori PDR yn datblygu datrysiadau ar gyfer cynhyrchion, gwasanaethau, ac atebion.

A woman writes on a whiteboard during a collaborative brainstorming discussion
Cydweithrediadau PDR

Mae PDR yn cydweithio a phartneriaid academaidd eraill, diwydiant, y sector cyhoeddus a llywodraethu i archwilio ac i wella polisi, rheoli ac ymarfer dylunio cynnyrch a gwasanaethau. Mae hefyd yn arwain ac yn cydweithio ar brosiectau a ariennir gan AHRC a rhaglenni UKRI eraill, amrywiol raglenni'r Comisiwn Ewropeaidd elusennau, diwydiant a llywodraeth.

A woman holding a microphone speaks to a room of seated attendees
Prosiectau

O fewn PDR, mae'r Ganolfan Eco-ddylunio yn gweithio gyda busnesau, grwpiau diwydiant, y byd academaidd, addysgwyr a llunwyr polisi ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol. Mae PDR yn bartner cyflenwi ar gyfer menter "Gwyrddu'r Sgrin" Media Cymru, sy'n ariannu prosiectau arloesol i leihau effaith amgylcheddol cynhyrchu ffilm a theledu o safon.

Information sign in front of a plant bed Information sign in front of a plant bed

Ewch i'r Hafan Ymchwil Swyddogol

01 - 01