Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Agweddau Eraill Cynaliadwyedd

Rear view of the Cardiff School of Management, including an open green space and outdoor seating, on a sunny day Rear view of the Cardiff School of Management, including an open green space and outdoor seating, on a sunny day
01 - 02

Cyflwyniad i Gemegau a Sylweddau Peryglus, Ystâd Gynaliadwy, Allyriadau ac Elifion, a Chaffael Cynaliadwy.


A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container. A person in a lab coat uses a pipette to dispense a sample into a container.

Cemegau a Sylweddau Peryglus

Mae Cynghorydd Iechyd a Diogelwch Met Caerdydd yn cydweithio a Thechnegwyr Labordy i fonitro sut mae sylweddau peryglus yn cael eu storio, eu trin a'u defnyddio, gan flaenoriaethu atal gollyngiadau ac allyriadau a allai arwain at ddifrod amgylcheddol. Rhaid i ysgolion reoli pob agwedd ar iechyd a diogelwch yn eu hardaloedd, gan gynnwys rheoli sylweddau peryglus a chadw cofnod o'r holl gemegau. Mae sylweddau peryglus yn cael eu storio mewn storfeydd diogel ac mae aelodau staff perthnasol yn cael eu hyfforddi i drin, i ddefnyddio ac i waredu'r rhain yn ddiogel.

01 - 04
Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas Aerial view of the Llandaff Campus and surrounding green areas

Ystâd Gynaliadwy

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i reoli a gwella agweddau amgylcheddol gweithrediadau'r ystâd drwy gynnal asesiadau risg i nodi bregusrwydd ac adeiladu gwydnwch yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn ogystal â blaenoriaethu dylunio cynaliadwy, arferion adeiladu, ac ailddefnyddio deunyddiau ar gyfer datblygiadau, adnewyddiadau a gwaith cynnal a chadw ar yr ystâd. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal archwiliadau allanol i sicrhau bod ein safleoedd yn cadw ymddangosiad da, ac yn ymgysylltu a Chyngor Caerdydd ar arolygon ecolegol.

01 - 04
Manhole cover in a field of grass Manhole cover in a field of grass

Allyriadau a Chartffrydiau

Mae Allyriadau ac Elifiant yn cael eu rheoli gan dîm Amgylchedd ac Ystadau Met Caerdydd. Maen nhw'n goruchwylio rhyddhau nwyon tŷ gwydr, elifion nwyol, elifion trwy garthffosiaeth, a Legionella. Mae'r Brifysgol yn cynnal strategaeth gynnal a chadw cadarn yn unol â rhwymedigaethau statudol, tra bod ysgolion y Brifysgol yn cynnal asesiadau risg annibynnol ac yn sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o effaith ag sy'n bosibl ar yr amgylchedd lleol.

01 - 04
Cardiff Met staff member holds a Fairtrade information leaflet in front of their face Cardiff Met staff member holds a Fairtrade information leaflet in front of their face

Caffael Cynaliadwy

Mae Met Caerdydd yn annog ffermio a chynhyrchu teg, cynaliadwy a chyfrifol drwy sicrhau bod ein cyflenwyr yn mabwysiadu ac yn defnyddio arferion busnes cymdeithasol ac amgylcheddol cyfrifol priodol. Mae'r Brifysgol wedi bod yn defnyddio tendro electronig ers bron i 10 mlynedd, ac mae ganddi broses archebu e-gaffael sefydledig. Mae gweithredu'r prosesau hyn wedi arwain at ostyngiad dramatig yn y defnydd o ddogfennau copi caled a deunydd o ddogfennau copi caled a deunydd ysgrifennu, ac o ganlyniad lleihau'r defnydd ar wasanaethau'r post.

01 - 04