Nod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yw lleihau cynhyrchu gwastraff i'r eithaf a hyrwyddo Ail-ddefnyddio eitemau ar y campws. Mae lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff yn rhan allweddol o weithredu'n gynaliadwy a sicrhau bod ein myfyrwyr, staff ac ymwelwyr cyfrannu at wireddu economi gylchol yng Nghymru a sicrhau dim gwastraff erbyn 2050.
Mae Cyfleuster Adfer Ynni Caerdydd (ERF) yn dargyfeirio tua 95% o wastraff gweddilliol De Cymru o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu 30mw o drydan ar gyfer y grid cenedlaethol - digon i bweru tua 50,000 o aelwydydd
Mae Dogfen Ganllawiau Gwastraff ar gael i staff a myfyrwyr ar lwyfannau mewnol, sy'n cynnwys rhestr helaeth o eitemau gwastraff a sut i'w gwaredu'n briodol rhag sbwriel a safleoedd tirlenwi.
Yn ogystal â gosod biniau rhoi dillad ar bob safle, mae'r tîm Cynaliadwyedd yn cynnal cyfnewidiadau dillad am ddim bob tymor, sy'n achub cannoedd o eitemau rhag mynd i safle tirlenwi bob blwyddyn. Rhoddir eiddo coll i elusen hefyd.