Hyb AI i Fyfyrwyr Caerdydd
Mae Hyb AI i Fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu canllawiau clir ac ymarferol i helpu myfyrwyr i ddeall sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn gyfrifol, yn foesegol ac yn hyderus drwy gydol eu hastudiaethau.
Mae offer AI yn rhan gynyddol o sut mae myfyrwyr yn dysgu, yn ymchwilio ac yn paratoi ar gyfer gwaith. Pan gaiff ei ddefnyddio'n dda, gall deallusrwydd artiffisial gefnogi dealltwriaeth, datblygu sgiliau a hyder. Pan gaiff ei ddefnyddio'n amhriodol, yn enwedig mewn asesu, gall beri risgiau i uniondeb academaidd.
Mae'r Hyb yn helpu myfyrwyr i lywio'r cydbwysedd hwn drwy nodi beth sy'n cael ei ganiatáu a beth nad yw'n cael ei ganiatáu, a thrwy annog ymgysylltiad meddylgar a beirniadol â thechnolegau AI.
Beth mae'r Hyb AI i Fyfyrwyr Mewnol yn ei Ddarparu
Wedi'i seilio ar Ddatganiad Safbwynt AI a'r Egwyddorion Arweiniol ar AI y Brifysgol, mae'r Hyb yn gwneud y canlynol:
- Yn egluro'r gwahaniaeth rhwng defnyddio AI i gefnogi dysgu a defnyddio AI mewn asesu, gan atgyfnerthu bod rheolau asesu wedi'u gosod ar lefel modiwl a bod yn rhaid eu gwirio bob amser.
- Yn pwysleisio bod myfyrwyr yn parhau i fod yn gyfrifol am eu gwaith ei hunain ac na ddylent gyflwyno cynnwys a gynhyrchwyd gan AI fel eu gwaith ei hunain.
- Yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu llythrennedd AI , gan eu helpu i gwestiynu, gwerthuso a gwirio allbynnau AI yn hytrach na dibynnu arnynt yn ddi-feirniadaeth.
- Yn darparu canllawiau ymarferol, enghreifftiau ac awgrymiadau myfyriol yn annog myfyrwyr i ganolbwyntio ar ddysgu a deall, nid yn unig ar gynhyrchu atebion.
- Yn cyfeirio myfyrwyr at offer AI a ddarperir gan Met Caerdydd, ochr yn ochr â hyfforddiant AI, canllawiau cyflogadwyedd a datblygu sgiliau digidol.
- Yn tynnu sylw at lwybrau clir i gael cymorth, gan gynnwys staff academaidd a chymorth technegol, gan atgyfnerthu bod gofyn cwestiynau a cheisio cyngor yn cael ei annog.
At ei gilydd, mae Hyb AI i Fyfyrwyr AI gosod AI fel offeryn i wella dysgu, nid disodli’r gallu i feddwl, wrth hyrwyddo uniondeb, hyder a defnydd cyfrifol mewn tirwedd ddigidol sy'n newid yn gyflym.
Mynediad i'r Hyb Llawn
Os ydych yn fyfyriwr ym Met Caerdydd, gallwch archwilio'r casgliad llawn o ganllawiau, offer ac adnoddau drwy ymweld â'r Hyb AI i Fyfyrwyr mewnol.