Adnoddau Partner
Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd amrywiaeth o wahanol adnoddau ar gyfer staff yn ein sefydliadau partner. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys eitemau fel:
- Llawlyfr Darpariaeth Gydweithredol (Saesneg)
- Templedi dogfennau
- Dogfennau canllawiau a chymorth
- Prosesau
- Mynediad i’r Llyfrgell/e-Adnoddau
- Adnoddau’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu
- Cefnogaeth astudio
- Cymorth a chymhorthion i fyfyrwyr
Os oes gennych ID defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Metropolitan Caerdydd yna cysylltwch â partnerships@cardiffmet.ac.uk a allai roi cymorth ar sut i gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnoch.
Cwestiynau Cyffredin
Mae gen i gyfrif Prifysgol Metropolitan Caerdydd ond mae’n dweud bod mynediad yn cael ei wrthod i mi
Gall hyn fod oherwydd nodi cyfrinair anghywir. Gellir newid cyfrineiriau trwy’r dudalen rheoli cyfrinair.
Os oes gennych unrhyw broblemau wrth newid eich cyfrinair yna cysylltwch ag ITHelpdesk@cardiffmet.ac.uk a byddan nhw’n gallu eich helpu.
Rydw i wedi anghofio fy ID defnyddiwr/cyfrinair ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae’n bosibl i aelodau’r staff ailosod eu cyfrinair trwy anfon côd i’w ffôn symudol neu eu cyfeiriad e-bost. Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth hwn trwy’r dudalen rheoli cyfrinair.
Dylai staff nad ydyn nhw’n gallu cofio eu henw defnyddiwr gysylltu ag ITHelpdesk@cardiffmet.ac.uk i gael cymorth.
Does gen i ddim ID defnyddiwr/cyfrinair ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Os ydych chi’n aelod staff mewn sefydliad partner – academaidd neu weinyddwr – a’ch bod chi’n ymwneud â chwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yna cysylltwch â’ch cyswllt yn y sefydliad lleol. Bydd angen i chi roi’ch enw llawn, eich cyfeiriad e-bost a’ch dyddiad geni. Yna byddwn yn gweithio gyda’r cyswllt i gymeradwyo a chreu eich cyfrif.