Skip to content

Yr Uned Gymraeg

Mae’r Uned Gymraeg yn arwain datblygiad gwasanaethau a darpariaeth Gymraeg Met Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cefnogi pob rhan o’r Brifysgol i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu derbyn y gwasanaethau Cymraeg sydd eu hangen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddynt
  • Gweithio tuag at ein nod bod 30% o’n myfyrwyr sy’n gallu’r Gymraeg yn astudio o leiaf traean o’u cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2030
  • Annog ein holl fyfyrwyr sy’n gallu’r Gymraeg i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg lle bo modd ac i elwa o’r holl gyfleoedd a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Darparu Gwasanaeth Cyfieithu sy’n cefnogi gwasanaethau a darpariaeth Gymraeg Met Caerdydd
  • Cynnig gwersi Cymraeg i staff a myfyrwyr a chyfleoedd iddynt ddatblygu eu sgiliau y tu allan i’r dosbarthiadau, fel eu bod yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn broffesiynol ac yn gymdeithasol
  • Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant ac annog y defnydd o'r Gymraeg ar draws Met Caerdydd ymysg myfyrwyr, staff a’r cyhoedd

Am fwy o wybodaeth, anfonwch neges at unedgymraeg@cardiffmet.ac.uk.