Polisi Iaith Gymraeg Met Caerdydd
Mae Met Caerdydd eisiau cefnogi myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd fel eu bod yn gallu defnyddio’r Gymraeg fel rhan o fywyd bob dydd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ei Strategaeth 2030.
Mae ein Polisi ar yr Iaith Gymraeg a’i defnydd yn ein gwaith bob dydd yn dangos sut rydym yn gweithredu Safonau’r Gymraeg. Mae’r ddogfen hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad Met Caerdydd i’r egwyddorion canlynol:
- Trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o fewn ein gwaith yng Nghymru
- Cynnal awyrgylch croesawgar fel bod ein diwylliant yn ffynnu
- Datblygu gweithlu dwyieithog a fydd, yn ei dro, yn caniatáu twf mewn gwasanaethau a darpariaeth Gymraeg
- Hyrwyddo'r iaith, ei defnydd a'i gwelededd ar draws Met Caerdydd